Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 11:26-33 beibl.net 2015 (BNET)

26. Roedd cael ei amharchu dros y Meseia yn fwy gwerthfawr yn ei olwg na holl drysor yr Aifft, am ei fod yn edrych ymlaen at y wobr oedd gan Dduw iddo.

27. Ei ffydd wnaeth i Moses adael yr Aifft. Doedd ganddo ddim ofn y brenin. Daliodd ati i'r diwedd am ei fod yn cadw ei olwg ar y Duw anweledig.

28. Ei ffydd wnaeth i Moses gadw'r Pasg hefyd, a gorchymyn i'r bobl roi gwaed ar byst drysau eu tai. Wedyn fyddai'r angel oedd yn lladd y mab hynaf ddim yn cyffwrdd teuluoedd Israel.

29. Ffydd wnaeth i bobl Israel gerdded drwy ganol y Môr Coch ar dir sych. Pan geisiodd yr Eifftiaid wneud yr un peth, dyma nhw'n cael eu boddi.

30. Ffydd wnaeth i bobl Israel gerdded mewn cylch o gwmpas Jericho am saith diwrnod, a dyma'r waliau'n syrthio.

31. Am fod ganddi ffydd, rhoddodd Rahab y butain groeso i'r ysbiwyr. Wnaeth hi ddim cael ei lladd fel pawb arall, oedd yn anufudd i Dduw.

32. Beth arall sydd raid i mi ei ddweud? Does gen i ddim amser i sôn am Gideon, Barac, Samson, Jefftha, Dafydd, Samuel a'r holl broffwydi.

33. Eu ffydd wnaeth alluogi'r bobl hyn i wneud pob math o bethau – concro teyrnasoedd, llywodraethu'n gyfiawn, a derbyn y bendithion roedd Duw wedi eu haddo. Cafodd llewod eu rhwystro rhag lladd pobl,

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 11