Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 11:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Ffydd ydy'r sicrwydd fod beth dŷn ni'n gobeithio amdano yn mynd i ddigwydd. Mae'n dystiolaeth sicr o realiti beth dŷn ni ddim eto'n ei weld.

2. Dyma pam gafodd pobl ers talwm eu canmol gan Dduw.

3. Ffydd sy'n ein galluogi ni i ddeall mai'r ffordd y cafodd y bydysawd ei osod mewn trefn oedd trwy i Dduw roi gorchymyn i'r peth ddigwydd. A chafodd y pethau o'n cwmpas ni ddim eu gwneud allan o bethau oedd yno i'w gweld o'r blaen.

4. Ei ffydd wnaeth i Abel offrymu aberth i Dduw oedd yn well nag un Cain. Dyna sut y cafodd ei ganmol fel un oedd yn gwneud y peth iawn, gyda Duw ei hun yn dweud pethau da am ei offrwm. Ac er ei fod wedi marw ers talwm, mae ei ffydd yn dal i siarad â ni.

5. Ffydd Enoch wnaeth beri iddo gael ei gymryd i ffwrdd o'r bywyd hwn heb orfod mynd drwy'r profiad o farw. “Roedd wedi diflannu am fod Duw wedi ei gymryd i ffwrdd.” Cyn iddo gael ei gymryd i ffwrdd cafodd ei ganmol am ei fod wedi plesio Duw.

6. Mae'n amhosib plesio Duw heb ffydd. Mae'n rhaid i'r rhai sydd am fynd ato gredu ei fod yn bodoli, a'i fod yn gwobrwyo pawb sy'n ei geisio o ddifri.

7. Ffydd Noa wnaeth iddo wrando ar Dduw ac adeiladu llong fawr i achub ei deulu. Roedd Duw wedi ei rybuddio am bethau oedd erioed wedi digwydd o'r blaen. Wrth gredu roedd e'n condemnio gweddill y ddynoliaeth, ond roedd Noa ei hun yn cael ei dderbyn yn gyfiawn yng ngolwg Duw.

8. Ffydd Abraham wnaeth iddo wrando ar Dduw. Roedd Duw yn ei alw i adael ei gartref a mynd i wlad y byddai'n ei derbyn yn etifeddiaeth yn nes ymlaen. Ond pan aeth oddi cartref doedd e ddim yn gwybod ble roedd yn mynd!

9. A phan gyrhaeddodd y wlad roedd Duw wedi ei haddo iddo, ei ffydd wnaeth iddo aros yno. Roedd fel ymwelydd mewn gwlad dramor, yn byw mewn pebyll. (Ac Isaac a Jacob yr un fath, gan fod Duw wedi rhoi'r un addewid iddyn nhw hefyd.)

10. Roedd Abraham yn edrych ymlaen at fyw yn y ddinas roedd Duw wedi ei chynllunio a'i hadeiladu, sef y ddinas sy'n aros am byth.

11. Ffydd wnaeth alluogi Sara i fod yn fam hefyd. Roedd yn llawer rhy hen i gael plentyn mewn gwirionedd, ond roedd yn credu y byddai Duw yn gwneud beth roedd wedi ei addo.

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 11