Hen Destament

Testament Newydd

Hebreaid 1:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yn y gorffennol pell roedd Duw wedi siarad gyda'n hynafiaid ni drwy'r proffwydi. Gwnaeth hyn bob yn dipyn ac mewn gwahanol ffyrdd.

2. Ond bellach, yn y cyfnod olaf hwn, mae wedi siarad â ni drwy ei Fab. Mae Duw wedi dewis rhoi popeth sy'n bodoli yn eiddo iddo fe – yr un oedd gyda Duw yn gwneud y bydysawd.

3. Mae holl ysblander Duw yn disgleirio ohono. Mae e'n dangos i ni'n berffaith sut un ydy Duw. Ei awdurdod pwerus e sy'n dal popeth yn y bydysawd gyda'i gilydd! Ar ôl iddo ei gwneud hi'n bosib i bobl gael eu glanhau o'u pechodau, cafodd eistedd yn y nefoedd, yn y sedd anrhydedd ar ochr dde y Duw Mawr ei hun.

4. Roedd wedi ei wneud yn bwysicach na'r angylion. Roedd y teitl roddodd Duw iddo yn dangos ei fod yn bwysicach na nhw.

5. Wnaeth Duw ddweud hyn wrth angel erioed: “Ti ydy fy Mab i; heddiw des i yn dad i ti” ?Neu hyn: “Bydda i'n dad iddo fe, A bydd e'n fab i mi” ?

6. Ac wrth i Dduw ddod â'i fab hynaf yn ôl i'r byd nefol i'w anrhydeddu, mae'n dweud: “Addolwch e, holl angylion Duw!”

7. Pan mae Duw'n sôn am angylion mae'n eu disgrifio fel: “negeswyr sydd fel gwyntoedd, a gweision sydd fel fflamau o dân.”

Darllenwch bennod gyflawn Hebreaid 1