Hen Destament

Testament Newydd

Galatiaid 4:8-24 beibl.net 2015 (BNET)

8. O'r blaen, cyn i chi ddod i wybod am Dduw roeddech chi'n gaeth i bwerau sy'n cael eu galw'n ‛dduwiau‛ ond sydd ddim wir yn dduwiau.

9. Ond bellach dych chi wedi cyfarfod, a dod i nabod, y gwir Dduw (er, Duw ddaeth i'ch cyfarfod chi go iawn). Felly pam dych chi eisiau troi'n ôl at y pethau hynny sydd mor wan a thila? Ydych chi eisiau cael eich caethiwo ganddyn nhw unwaith eto?

10. Ydych chi'n meddwl mai cadw rhyw fân reolau am ddyddiau arbennig a misoedd a thymhorau'r gwyliau crefyddol blynyddol sy'n plesio Duw?

11. Mae'n gwneud i mi deimlo mod i wedi gwastraffu f'amser gyda chi!

12. Frodyr a chwiorydd, dw i'n erfyn arnoch chi i fyw'n rhydd o bethau felly, fel dw i'n gwneud. Dw i wedi dod fel un ohonoch chi. Dych chi erioed wedi gwneud dim drwg i mi o'r blaen.

13. Gwyddoch mai salwch roddodd gyfle i mi gyhoeddi'r newyddion da i chi y tro cyntaf.

14. A wnaethoch chi ddim gwneud hwyl ar fy mhen i na ngwrthod i, er bod fy salwch yn demtasiwn i chi wneud hynny. Yn wir, ces i'r fath groeso gynnoch chi – fel petawn i'n angel oddi wrth Dduw, neu hyd yn oed y Meseia Iesu ei hun!

15. Roeddech chi mor hapus! Beth sydd wedi digwydd? Dw i'n reit siŵr y byddech chi bryd hynny wedi tynnu'ch llygaid eich hunain allan a'u rhoi nhw i mi petai'n bosib.

16. Ydw i bellach yn elyn i chi am fy mod i wedi dweud y gwir?

17. Mae'r athrawon ffals yna mor awyddus i geisio'ch cael chi i'w dilyn nhw, ond dŷn nhw'n poeni dim am eich lles chi. Y cwbl maen nhw eisiau ydy'ch cael chi i dorri cysylltiad â ni, a dechrau eu cefnogi nhw.

18. “Mae'n beth da ceisio pobl gyda'r bwriad o wneud lles iddyn nhw” – felly y dylai fod bob amser, nid dim ond pan dw i o gwmpas.

19. Fy mhlant annwyl i – dw i'n teimlo fel mam yn cael poenau wrth eni plentyn, a fydd y poen ddim yn diflannu nes bydd bywyd y Meseia i'w weld yn eich bywydau chi.

20. O! byddwn i'n rhoi unrhyw beth am gael bod acw gyda chi, er mwyn i chi glywed oddi wrth dôn fy llais sut dw i'n teimlo go iawn. Dw i wir yn poeni! – dw i ddim yn gwybod beth i'w wneud!

21. Dwedwch wrtho i – chi sydd eisiau cael eich rheoli gan fanion y Gyfraith Iddewig. Ydych chi ddim yn gwrando ar beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud?

22. Mae'n dweud fod Abraham wedi cael dau fab, un gan ei gaethferch a'r llall gan ei wraig.

23. Cafodd mab y gaethferch ei eni o ganlyniad i ymdrech dyn i gyflawni addewid Duw, ond cafodd mab ei wraig ei eni am fod Duw yn gwneud beth mae'n addo'i wneud.

24. Mae darlun yn yr hanes, a dyma'i ystyr: Mae'r ddwy wraig yn cynrychioli dau ymrwymiad wnaeth Duw. Mae Hagar, y gaethferch, yn cynrychioli'r un ar fynydd Sinai – ac mae ei phlant hi wedi eu geni yn gaethion.

Darllenwch bennod gyflawn Galatiaid 4