Hen Destament

Testament Newydd

Galatiaid 4:18-31 beibl.net 2015 (BNET)

18. “Mae'n beth da ceisio pobl gyda'r bwriad o wneud lles iddyn nhw” – felly y dylai fod bob amser, nid dim ond pan dw i o gwmpas.

19. Fy mhlant annwyl i – dw i'n teimlo fel mam yn cael poenau wrth eni plentyn, a fydd y poen ddim yn diflannu nes bydd bywyd y Meseia i'w weld yn eich bywydau chi.

20. O! byddwn i'n rhoi unrhyw beth am gael bod acw gyda chi, er mwyn i chi glywed oddi wrth dôn fy llais sut dw i'n teimlo go iawn. Dw i wir yn poeni! – dw i ddim yn gwybod beth i'w wneud!

21. Dwedwch wrtho i – chi sydd eisiau cael eich rheoli gan fanion y Gyfraith Iddewig. Ydych chi ddim yn gwrando ar beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud?

22. Mae'n dweud fod Abraham wedi cael dau fab, un gan ei gaethferch a'r llall gan ei wraig.

23. Cafodd mab y gaethferch ei eni o ganlyniad i ymdrech dyn i gyflawni addewid Duw, ond cafodd mab ei wraig ei eni am fod Duw yn gwneud beth mae'n addo'i wneud.

24. Mae darlun yn yr hanes, a dyma'i ystyr: Mae'r ddwy wraig yn cynrychioli dau ymrwymiad wnaeth Duw. Mae Hagar, y gaethferch, yn cynrychioli'r un ar fynydd Sinai – ac mae ei phlant hi wedi eu geni yn gaethion.

25. Ac mae Hagar a Mynydd Sinai yn Arabia yn ddarlun o Jerwsalem fel y mae heddiw – mae hi a'i phlant yn gaethion.

26. Ond mae Sara gwraig Abraham, ar y llaw arall, yn wraig rydd, ac yn cynrychioli y Jerwsalem ysbrydol. Hi ydy'n mam ni!

27. Amdani hi mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Bydd lawen, ti wraig ddiffrwyth sy'n methu cael plant! Bloeddia ganu'n uchel, ti sydd heb brofi poenau geni plentyn! Bydd gan y wraig sydd ar ei phen ei hun fwy o blant na'r un sydd â gŵr.”

28. Frodyr a chwiorydd, chi ydy plant yr addewid! – yn union fel Isaac!

29. Ac fel y cafodd Isaac ei erlid gan fab y gaethferch, mae'r plant sydd wedi eu geni o'r Ysbryd Glân yn cael eu herlid gan y rhai sy'n dweud bod rhaid ymdrechu i gadw popeth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn.

30. Ond beth ydy ateb yr ysgrifau sanctaidd i'r broblem? “Rhaid i ti gael gwared â'r gaethferch a'i mab. Fydd mab y gaethferch ddim yn cael rhan o etifeddiaeth mab dy wraig, sy'n rhydd.”

31. Dim plant y gaethferch ydyn ni, ffrindiau! Plant y wraig rydd ydyn ni!

Darllenwch bennod gyflawn Galatiaid 4