Hen Destament

Testament Newydd

Galatiaid 4:1-13 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma dw i'n olygu: Does gan blentyn sy'n mynd i dderbyn eiddo ei dad ddim mwy o hawliau na chaethwas tra mae'n dal dan oed – er mai'r plentyn hwnnw biau'r cwbl ar un ystyr!

2. Mae gofalwyr ac ymddiriedolwyr yn gyfrifol am y plentyn nes daw i'r oed roedd ei dad wedi penderfynu y byddai'n ddigon cyfrifol i edrych ar ei ôl ei hun.

3. Felly gyda ninnau; pan oedden ni ddim yn deall yn iawn, roedden ni'n gaeth i'r pwerau a'r dylanwadau drwg sy'n rheoli'r byd.

4. Ond ar yr union adeg roedd Duw wedi ei ddewis, anfonodd ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan y Gyfraith,

5. i dalu'r pris i'n rhyddhau ni oedd yn gaeth i'r Gyfraith, er mwyn i ni gael ein mabwysiadu'n blant i Dduw.

6. A chan eich bod chi sydd ddim yn Iddewon hefyd yn blant iddo bellach, anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i'n calonnau ni i gyd, sef yr Ysbryd sy'n gweiddi, “Abba! Dad!”

7. Felly dim caethweision ydych chi bellach, ond plant Duw; a chan eich bod yn blant iddo, byddwch chithau'n derbyn gan Dduw y cwbl mae wedi addo ei roi i chi.

8. O'r blaen, cyn i chi ddod i wybod am Dduw roeddech chi'n gaeth i bwerau sy'n cael eu galw'n ‛dduwiau‛ ond sydd ddim wir yn dduwiau.

9. Ond bellach dych chi wedi cyfarfod, a dod i nabod, y gwir Dduw (er, Duw ddaeth i'ch cyfarfod chi go iawn). Felly pam dych chi eisiau troi'n ôl at y pethau hynny sydd mor wan a thila? Ydych chi eisiau cael eich caethiwo ganddyn nhw unwaith eto?

10. Ydych chi'n meddwl mai cadw rhyw fân reolau am ddyddiau arbennig a misoedd a thymhorau'r gwyliau crefyddol blynyddol sy'n plesio Duw?

11. Mae'n gwneud i mi deimlo mod i wedi gwastraffu f'amser gyda chi!

12. Frodyr a chwiorydd, dw i'n erfyn arnoch chi i fyw'n rhydd o bethau felly, fel dw i'n gwneud. Dw i wedi dod fel un ohonoch chi. Dych chi erioed wedi gwneud dim drwg i mi o'r blaen.

13. Gwyddoch mai salwch roddodd gyfle i mi gyhoeddi'r newyddion da i chi y tro cyntaf.

Darllenwch bennod gyflawn Galatiaid 4