Roedd Duw wedi dangos i mi fod rhaid i mi fynd. Ces gyfarfod preifat gyda'r rhai sy'n cael eu hystyried yn arweinwyr ‛pwysig‛. Dyma fi'n dweud wrthyn nhw yn union beth dw i wedi bod yn ei bregethu fel newyddion da i bobl o genhedloedd eraill. Roeddwn i am wneud yn siŵr mod i ddim wedi bod yn gweithio mor galed i ddim byd.