Ond roedd hi'n gwbl amlwg i mi eu bod nhw'n ymddwyn yn groes i wirionedd y newyddion da. Felly dyma fi'n dweud wrth Pedr o'u blaen nhw i gyd, “Rwyt ti'n Iddew, ac eto rwyt ti'n byw fel pobl o genhedloedd eraill, felly sut wyt ti'n cyfiawnhau gorfodi pobl o'r gwledydd hynny i ddilyn traddodiadau Iddewig?”