Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6

Hen Destament

Testament Newydd

Galatiaid 1 beibl.net 2015 (BNET)

1. Llythyr gan Paul, cynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu.Dim pobl ddewisodd fi i fod yn gynrychiolydd i'r Meseia, a dim rhyw ddyn cyffredin anfonodd fi, ond y Meseia Iesu ei hun, a Duw y Tad, yr un gododd e yn ôl yn fyw.

2. Mae'r ffrindiau sydd gyda mi yma yn anfon eu cyfarchion. Atoch chi, yr eglwysi yn nhalaith Galatia:

3. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.

4. Gwnaeth Iesu yn union beth oedd ein Duw a'n Tad eisiau! Rhoddodd ei fywyd yn aberth dros ein pechodau ni, er mwyn ein rhyddhau ni o afael yr oes bresennol a'i drygioni.

5. Dyma'r Duw sy'n haeddu ei foli am byth bythoedd! Amen!

Dim Newyddion Da arall

6. Dw i'n ei chael hi'n anodd credu eich bod chi'n troi cefn ar Dduw mor fuan! Troi cefn ar yr un sydd wedi'ch galw chi ato'i hun trwy haelioni'r Meseia – a derbyn rhyw syniadau eraill sy'n honni bod yn ‛newyddion da‛.

7. Ond does yna ddim newyddion da arall yn bod! Rhyw bobl sy'n eich drysu chi drwy ystumio'r newyddion da am y Meseia a'i wneud yn rhywbeth arall.

8. Melltith Duw ar bwy bynnag sy'n cyhoeddi neges wahanol i'r un wnaethon ni ei rhannu gyda chi! Petaen ni'n hunain yn gwneud y fath beth, neu hyd yn oed angel o'r nefoedd, melltith Duw arno!

9. Dw i wedi dweud o'r blaen a dw i'n dweud yr un peth eto: Os oes rhywun yn cyhoeddi neges wahanol i'r un wnaethoch chi ei chredu, melltith Duw arno!

10. Felly, ydw i'n swnio nawr fel rhywun sydd eisiau cael ei ganmol gan bobl? Onid ceisio plesio Duw ydw i? Ydw i eisiau bod yn boblogaidd? Taswn i'n dal yn ceisio plesio pobl, fyddwn i ddim yn was i'r Meseia.

Paul wedi ei alw gan Dduw

11. Frodyr a chwiorydd, dw i eisiau i chi ddeall yn iawn mai dim rhywbeth wnaeth pobl ei ddychmygu ydy'r newyddion da yma dw i'n ei gyhoeddi.

12. Dim clywed y neges gan rywun arall wnes i, a wnaeth neb arall ei dysgu hi i mi; na, y Meseia Iesu ei hun ddangosodd i mi beth oedd y gwir.

13. Mae'n siŵr eich bod chi wedi clywed beth roeddwn i'n ei wneud pan o'n i'n dilyn y grefydd Iddewig: roeddwn i'n erlid Cristnogion fel ffanatig, ac yn ceisio dinistrio eglwys Dduw.

14. Roeddwn i'n cymryd crefydd gymaint o ddifri, ac ymhell ar y blaen i eraill oedd yr un oed â mi. Roeddwn i ar dân dros ein traddodiadau Iddewig ni.

15. Ond roedd Duw wedi fy newis i cyn i mi gael fy ngeni, a buodd e'n anhygoel o garedig tuag ata i trwy fy ngalw i'w ddilyn. Gwelodd yn dda

16. i ddangos ei Fab i mi, er mwyn i mi fynd allan i gyhoeddi'r newyddion da amdano i bobl o genhedloedd eraill! Wnes i ddim mynd i ofyn cyngor unrhyw un,

17. na mynd i Jerwsalem i weld y rhai oedd yn gynrychiolwyr i Iesu o mlaen i chwaith. Na, es i'n syth i Arabia, ac wedyn mynd yn ôl i Damascus.

18. Aeth tair blynedd heibio cyn i mi fynd i Jerwsalem i dreulio amser gyda Pedr, a dim ond am bythefnos arhosais i yno.

19. Welais i ddim un o'r cynrychiolwyr eraill, dim ond Iago, brawd yr Arglwydd.

20. Dyna'r gwir – o flaen Duw, heb air o gelwydd!

21. Ar ôl hynny dyma fi'n mynd i Syria a Cilicia.

22. Doedd Cristnogion eglwysi Jwdea ddim yn fy nabod i'n bersonol,

23. ond roedden nhw wedi clywed pobl yn dweud: “Mae'r dyn oedd yn ein herlid ni wedi dod i gredu! Mae'n cyhoeddi'r newyddion da oedd e'n ceisio ei ddinistrio o'r blaen!”

24. Roedden nhw'n moli Duw am beth oedd wedi digwydd i mi.