Hen Destament

Testament Newydd

Effesiaid 6:7-18 beibl.net 2015 (BNET)

7. Gweithiwch eich gorau glas, fel petaech yn gweithio i'r Arglwydd ei hun, dim i bobl.

8. Cofiwch mai'r Arglwydd fydd yn gwobrwyo pawb am y daioni mae'n ei wneud – caethwas neu beidio.

9. A chi'r meistri yr un fath, dylech drin eich caethweision yn deg. Peidiwch eu bwlio nhw. Cofiwch fod Duw, sydd yn y nefoedd, yn feistr ar y naill a'r llall ohonoch chi. Does ganddo fe ddim ffefrynnau!

10. Dyma'r peth olaf sydd i'w ddweud: Byddwch yn gryf, a chael eich nerth gan yr Arglwydd a'r pŵer aruthrol sydd ganddo fe.

11. Mae Duw wedi paratoi arfwisg i chi ei gwisgo yn y frwydr. Byddwch chi'n gallu gwneud safiad yn erbyn triciau slei y diafol.

12. Dŷn ni ddim yn ymladd yn erbyn pobl. Mae'n brwydr ni yn erbyn y bodau ysbrydol sy'n llywodraethu, sef yr awdurdodau a'r pwerau tywyll sy'n rheoli'r byd yma; y fyddin ysbrydol ddrwg yn y byd nefol.

13. Felly gwisgwch yr arfwisg mae Duw'n ei rhoi i chi, er mwyn i chi ddal eich tir pan fydd pethau'n ddrwg, a dal i sefyll ar ddiwedd y frwydr.

14. Safwch gyda gwirionedd wedi ei rwymo fel belt am eich canol, cyfiawnder Duw yn llurig amdanoch,

15. a'r brwdfrydedd i rannu'r newyddion da am heddwch gyda Duw yn esgidiau ar eich traed.

16. Daliwch eich gafael yn nharian ffydd bob amser – byddwch yn gallu diffodd saethau tanllyd yr un drwg gyda hi.

17. Derbyniwch achubiaeth yn helmed ar eich pen, a newyddion da Duw, sef cleddyf yr Ysbryd, yn arf yn eich llaw.

18. A beth bynnag ddaw, gweddïwch bob amser fel mae'r Ysbryd yn arwain. Cadwch yn effro, a dal ati i weddïo'n daer dros bobl Dduw i gyd.

Darllenwch bennod gyflawn Effesiaid 6