Hen Destament

Testament Newydd

Effesiaid 5:8-23 beibl.net 2015 (BNET)

8. Ar un adeg roeddech chi yn y tywyllwch, ond bellach mae golau'r Arglwydd yn disgleirio ynoch chi. Dylech fyw mewn ffordd sy'n dangos eich bod chi yn y golau.

9. Pethau da a chyfiawn a gwir ydy'r ffrwyth sy'n tyfu yn y golau.

10. Gwnewch beth sy'n plesio'r Arglwydd.

11. Peidiwch cael dim i'w wneud â'r math o ymddygiad sy'n perthyn i'r tywyllwch. Na, ewch ati i ddangos mor ddrwg ydyn nhw.

12. Mae'n warthus hyd yn oed sôn am y pethau mae pobl yn eu gwneud o'r golwg.

13. Ond pan mae'r golau yn disgleirio mae'r cwbl yn dod i'r golwg.

14. Mae'r golau yn dangos pethau fel y maen nhw go iawn. Dyna pam mae'n cael ei ddweud: “Deffra, ti sydd yn cysgu tyrd yn ôl yn fyw! a bydd golau'r Meseia yn disgleirio arnat ti.”

15. Felly, gwyliwch sut dych chi'n ymddwyn. Peidiwch bod yn ddwl – byddwch yn ddoeth.

16. Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i wneud daioni, achos mae digon o ddrygioni o'n cwmpas ni ym mhobman.

17. Peidiwch gwneud dim yn ddifeddwl; ceisiwch ddeall bob amser beth mae'r Arglwydd eisiau.

18. Peidiwch meddwi ar win – dyna sut mae difetha'ch bywyd. Yn lle hynny, gadewch i'r Ysbryd Glân eich llenwi a'ch rheoli chi.

19. Canwch salmau ac emynau a chaneuon ysbrydol i'ch gilydd – canwch fawl yn frwd i'r Arglwydd.

20. Diolchwch i Dduw y Tad am bopeth bob amser, o achos y cwbl mae'r Arglwydd Iesu Grist wedi ei wneud.

21. Dylech fod yn atebol i'ch gilydd fel arwydd o'ch parch at y Meseia ei hun.

22. Chi'r gwragedd i'ch gwŷr fel i'r Arglwydd ei hun.

23. O'r gŵr mae'r wraig yn tarddu, fel mae'r eglwys yn tarddu o'r Meseia (rhoddodd ei fywyd i'w hachub hi!)

Darllenwch bennod gyflawn Effesiaid 5