Hen Destament

Testament Newydd

Effesiaid 5:15-31 beibl.net 2015 (BNET)

15. Felly, gwyliwch sut dych chi'n ymddwyn. Peidiwch bod yn ddwl – byddwch yn ddoeth.

16. Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i wneud daioni, achos mae digon o ddrygioni o'n cwmpas ni ym mhobman.

17. Peidiwch gwneud dim yn ddifeddwl; ceisiwch ddeall bob amser beth mae'r Arglwydd eisiau.

18. Peidiwch meddwi ar win – dyna sut mae difetha'ch bywyd. Yn lle hynny, gadewch i'r Ysbryd Glân eich llenwi a'ch rheoli chi.

19. Canwch salmau ac emynau a chaneuon ysbrydol i'ch gilydd – canwch fawl yn frwd i'r Arglwydd.

20. Diolchwch i Dduw y Tad am bopeth bob amser, o achos y cwbl mae'r Arglwydd Iesu Grist wedi ei wneud.

21. Dylech fod yn atebol i'ch gilydd fel arwydd o'ch parch at y Meseia ei hun.

22. Chi'r gwragedd i'ch gwŷr fel i'r Arglwydd ei hun.

23. O'r gŵr mae'r wraig yn tarddu, fel mae'r eglwys yn tarddu o'r Meseia (rhoddodd ei fywyd i'w hachub hi!)

24. Felly, fel mae'r eglwys yn atebol i'r Meseia, rhaid i chi'r gwragedd fod yn atebol i'ch gwŷr ym mhopeth.

25. Chi'r gwŷr, rhaid i chi garu eich gwragedd yn union fel mae'r Meseia wedi caru'r eglwys. Rhoddodd ei fywyd yn aberth drosti,

26. i'w chysegru hi a'i gwneud yn lân. Mae dŵr y bedydd yn arwydd o'r golchi sy'n digwydd drwy'r neges sy'n cael ei chyhoeddi.

27. Mae'r Meseia am gymryd yr eglwys iddo'i hun fel priodferch hardd – heb smotyn na chrychni na dim arall o'i le arni – yn berffaith lân a di-fai.

28. Dyna sut ddylai gwŷr garu eu gwragedd – fel eu cyrff eu hunain! Mae'r gŵr sy'n caru ei wraig yn ei garu ei hun!

29. Dydy pobl ddim yn casáu eu cyrff eu hunain – maen nhw'n eu bwydo nhw a gofalu amdanyn nhw. A dyna sut mae'r Meseia yn gofalu am yr eglwys,

30. gan ein bod ni'n wahanol rannau o'i gorff e.

31. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth fel hyn: “bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn cael ei uno â'i wraig, a bydd y ddau yn dod yn un.”

Darllenwch bennod gyflawn Effesiaid 5