Hen Destament

Testament Newydd

Effesiaid 5:1-19 beibl.net 2015 (BNET)

1. Felly dilynwch esiampl Duw, gan eich bod yn blant annwyl iddo.

2. Dylech fyw bywydau llawn cariad, yn union fel gwnaeth y Meseia ein caru ni a marw yn ein lle ni. Rhoddodd ei hun fel offrwm ac aberth oedd yn arogli'n hyfryd i Dduw.

3. Ddylai bod dim awgrym o anfoesoldeb rhywiol yn agos atoch chi, nac unrhyw fochyndra, na chwant hunanol chwaith! Dydy pethau felly ddim yn iawn i bobl sydd wedi cysegru eu bywydau i Dduw.

4. Dim iaith anweddus, siarad dwl a jôcs budron chwaith – does dim lle i bethau felly. Yn lle hynny dylech chi ddiolch i Dduw.

5. Dych chi'n gallu bod yn hollol siŵr o hyn: dim Duw a'i Feseia sy'n teyrnasu ym mywydau'r bobl hynny sy'n byw'n anfoesol, neu'n aflan, neu'n bod yn hunanol – addoli eilun-dduwiau ydy peth felly!

6. Peidiwch gadael i neb eich twyllo gyda'u geiriau gwag. Mae'r bobl yma yn gwneud Duw yn ddig, a bydd yn dod i gosbi pawb sy'n anufudd iddo.

7. Felly peidiwch ymuno gyda nhw.

8. Ar un adeg roeddech chi yn y tywyllwch, ond bellach mae golau'r Arglwydd yn disgleirio ynoch chi. Dylech fyw mewn ffordd sy'n dangos eich bod chi yn y golau.

9. Pethau da a chyfiawn a gwir ydy'r ffrwyth sy'n tyfu yn y golau.

10. Gwnewch beth sy'n plesio'r Arglwydd.

11. Peidiwch cael dim i'w wneud â'r math o ymddygiad sy'n perthyn i'r tywyllwch. Na, ewch ati i ddangos mor ddrwg ydyn nhw.

12. Mae'n warthus hyd yn oed sôn am y pethau mae pobl yn eu gwneud o'r golwg.

13. Ond pan mae'r golau yn disgleirio mae'r cwbl yn dod i'r golwg.

14. Mae'r golau yn dangos pethau fel y maen nhw go iawn. Dyna pam mae'n cael ei ddweud: “Deffra, ti sydd yn cysgu tyrd yn ôl yn fyw! a bydd golau'r Meseia yn disgleirio arnat ti.”

15. Felly, gwyliwch sut dych chi'n ymddwyn. Peidiwch bod yn ddwl – byddwch yn ddoeth.

16. Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i wneud daioni, achos mae digon o ddrygioni o'n cwmpas ni ym mhobman.

17. Peidiwch gwneud dim yn ddifeddwl; ceisiwch ddeall bob amser beth mae'r Arglwydd eisiau.

18. Peidiwch meddwi ar win – dyna sut mae difetha'ch bywyd. Yn lle hynny, gadewch i'r Ysbryd Glân eich llenwi a'ch rheoli chi.

19. Canwch salmau ac emynau a chaneuon ysbrydol i'ch gilydd – canwch fawl yn frwd i'r Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Effesiaid 5