Hen Destament

Testament Newydd

Effesiaid 3:4-16 beibl.net 2015 (BNET)

4. Wrth i chi ei ddarllen, dowch i weld sut dw i'n deall beth oedd yn ddirgelwch am y Meseia.

5. Doedd pobl yn y gorffennol ddim wedi cael gwybod y cwbl y mae'r Ysbryd Glân wedi ei ddangos i ni ei gynrychiolwyr a'i broffwydi.

6. Dyma'r dirgelwch i chi: fod pobl o genhedloedd eraill yn cael rhannu'r cwbl mae Duw wedi ei baratoi i'r Iddewon. Mae'r Meseia Iesu wedi eu gwneud nhw'n un corff gyda'r Iddewon, a byddan nhw'n cael rhannu'r bendithion gafodd eu haddo hefyd!

7. Dyma'r newyddion da dw i'n ei rannu ers i mi fy hun brofi haelioni anhygoel Duw. Fe ydy'r un sy'n rhoi'r nerth i mi wneud y cwbl.

8. Dw i'n neb. Dw i wedi syrthio'n is nag unrhyw un o bobl Dduw. Ac eto fi sydd wedi cael y fraint o bregethu i chi o'r cenhedloedd eraill am y trysor diderfyn sydd gan y Meseia ar ein cyfer ni.

9. Ces fy newis i esbonio cynllun Duw i chi, sef yr hyn roedd Crëwr pob peth wedi ei gadw o'r golwg cyn hyn.

10. Pwrpas Duw ydy i'r rhai sy'n llywodraethu ac i'r awdurdodau yn y byd ysbrydol ddod i weld mor rhyfeddol o gyfoethog ydy ei ddoethineb e. A'r eglwys sy'n dangos hynny iddyn nhw.

11. Dyma oedd cynllun Duw ers cyn i amser ddechrau, ac mae'r cwbl yn cael ei gyflawni yn y Meseia Iesu, ein Harglwydd ni.

12. Dŷn ni'n gwbl rydd a hyderus i glosio at Dduw am ein bod ni'n credu ynddo ac wedi cael ein huno gydag e.

13. Felly plîs peidiwch digalonni o achos beth dw i'n gorfod ei ddioddef drosoch chi. Dylech weld ei fod yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo!

14. Wrth feddwl am hyn i gyd dw i'n syrthio ar fy ngliniau i weddïo ar Dduw y Tad.

15. Fe sydd wedi rhoi eu hunaniaeth arbennig i bob grŵp o angylion yn y nefoedd ac i bobloedd ar y ddaear.

16. Dw i'n gweddïo y bydd yn defnyddio'r holl adnoddau bendigedig sydd ganddo i'ch gwneud chi'n gryf, ac y bydd yn rhoi nerth mewnol i chi drwy roi ei Ysbryd Glân i chi.

Darllenwch bennod gyflawn Effesiaid 3