Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 9:16-21 beibl.net 2015 (BNET)

16. Dyma nhw'n arwain byddin o ddau gan miliwn o filwyr ar gefn ceffylau. Clywais y rhif! – dyna faint oedd yna.

17. Dyma sut olwg oedd ar y ceffylau a'r marchogion a welais i: Roedd llurig eu harfwisg yn goch fel tân, yn las tywyll ac yn felyn fel sylffwr. Roedd pennau'r ceffylau fel pennau llewod, ac roedd tân a mwg a brwmstan yn dod allan o'u cegau.

18. Cafodd un rhan o dair o'r ddynoliaeth eu lladd gan y plâu, sef y tân, y mwg a'r brwmstan oedd yn dod allan o'u cegau.

19. Ond roedd gan y ceffylau rym yn eu cynffonnau hefyd. Roedd eu cynffonnau yn debyg i nadroedd gyda phennau oedd yn gallu brathu ac anafu pobl.

20. Ond wnaeth gweddill y ddynoliaeth ddim troi cefn ar eu drygioni (sef y bobl hynny wnaeth y plâu ddim eu lladd). Roedden nhw'n dal i addoli cythreuliaid ac eilunod o aur, arian, efydd, carreg a phren – eilunod sy'n methu gweld na chlywed na cherdded!

21. Wnaethon nhw ddim troi cefn ar yr holl lofruddio, na'r ddewiniaeth, na'r anfoesoldeb rhywiol, na'r dwyn chwaith.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 9