Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 9:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yna dyma'r pumed angel yn canu ei utgorn, a gwelais seren oedd wedi syrthio o'r awyr i'r ddaear. Dyma allwedd y pwll sy'n arwain i'r pydew diwaelod yn cael ei roi iddi.

2. Pan agorodd y seren y pwll i'r pydew diwaelod daeth mwg allan ohono fel mwg yn dod o ffwrnais enfawr. Dyma'r mwg ddaeth allan o'r pwll yn achosi i'r haul a'r awyr fynd yn dywyll.

3. Yna dyma locustiaid yn dod allan o'r mwg i lawr ar y ddaear, ac roedd y gallu i ladd fel sgorpionau wedi ei roi iddyn nhw.

4. Dyma nhw'n cael gorchymyn i beidio gwneud niwed i'r glaswellt a'r planhigion a'r coed. Dim ond y bobl hynny oedd heb eu marcio ar eu talcennau gyda sêl Duw oedd i gael niwed.

5. Ond doedden nhw ddim i fod i ladd y bobl hynny, dim ond eu poenydio nhw am bum mis (Roedd y boen yn debyg i'r boen mae rhywun sydd wedi cael pigiad gan sgorpion yn ei ddioddef).

6. Bydd pobl eisiau marw,ond yn methu marw;byddan nhw'n dyheu am gael marw,ond bydd marwolaeth yn dianc o'u gafael nhw.

7. Roedd y locustiaid yn edrych yn debyg i geffylau yn barod i fynd i frwydr, ac roedden nhw'n gwisgo rhywbeth tebyg i goron aur ar eu pennau. Roedd ganddyn nhw wynebau tebyg i wyneb dynol,

8. a gwallt hir fel gwallt gwragedd. Roedd ganddyn nhw ddannedd fel dannedd llew.

9. Roedd eu dwyfron fel arfwisg, fel llurig haearn, ac roedd sŵn eu hadenydd fel sŵn llawer o geffylau a cherbydau rhyfel yn rhuthro i frwydr.

10. Roedd ganddyn nhw gynffonnau fel cynffon sgorpion, a'u pigiad yn gallu poenydio pobl am bum mis.

11. Angel y pydew diwaelod ydy eu brenin nhw – Abadon ydy'r enw Hebraeg arno, neu Apolyon (sef ‛Y Dinistrydd‛) yn yr iaith Roeg.

12. Mae'r trychineb cyntaf wedi digwydd; ond edrychwch, mae dau arall yn dod!

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 9