Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 7:8-17 beibl.net 2015 (BNET)

8. deuddeg mil o lwyth Sabulon,deuddeg mil o lwyth Joseff,a deuddeg mil o lwyth Benjamin.

9. Edrychais eto ac roedd tyrfa enfawr o bobl o'm blaen i – tyrfa mor aruthrol fawr, doedd dim gobaith i neb hyd yn oed ddechrau eu cyfri! Roedden nhw yn dod o bob cenedl, llwyth, hil ac iaith, ac yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen. Roedden nhw'n gwisgo mentyll gwynion, ac roedd canghennau palmwydd yn eu dwylo.

10. Roedden nhw'n gweiddi'n uchel:“Ein Duw sydd wedi'n hachub ni! –yr Un sy'n eistedd ar yr orsedd,a'r Oen!”

11. Roedd yr holl angylion yn sefyll o gwmpas yr orsedd ac o gwmpas yr arweinwyr ysbrydol a'r pedwar creadur byw. A dyma nhw'n syrthio i lawr ar eu hwynebau o flaen yr orsedd ac yn addoli Duw,

12. gan ddweud:“Amen!Y mawl a'r ysblander,y doethineb a'r diolch,yr anrhydedd a'r gallu a'r nerth –Duw biau'r cwbl oll, am byth bythoedd!Amen!”

13. Yna dyma un o'r arweinyddion ysbrydol yn gofyn i mi, “Wyt ti'n gwybod pwy ydy'r bobl hyn sy'n gwisgo mentyll gwynion, ac o ble maen nhw wedi dod?”

14. “Na, ti sy'n gwybod, syr”, meddwn innau. Yna meddai, “Dyma'r bobl sydd wedi dioddef yn y creisis mawr olaf. Maen nhw wedi golchi eu dillad yn lân yng ngwaed yr Oen.

15. Dyna pam maen nhw yma'n sefyll o flaen gorsedd Duw, ac yn ei wasanaethu yn ei deml ddydd a nos. Bydd yr Un sy'n eistedd ar yr orsedd yn eu cadw nhw'n saff.

16. Fyddan nhw byth eto'n dioddef o newyn na syched. Fyddan nhw byth eto yn cael eu llethu gan yr haul na gwynt poeth yr anialwch.

17. Oherwydd bydd yr Oen sydd wrth yr orsedd yn gofalu amdanyn nhw fel bugail, ac yn eu harwain nhw at ffynhonnau o ddŵr ffres y bywyd. A bydd Duw yn sychu pob deigryn o'u llygaid nhw.”

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 7