Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 7:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yna ces i weledigaeth arall. Roedd pedwar angel yn sefyll ar gyrion eithaf y ddaear – gogledd, de, gorllewin a dwyrain. Roedden nhw'n dal y pedwar gwynt yn ôl. Doedd dim gwynt yn chwythu ar dir na môr, nac ar unrhyw goeden.

2. Wedyn dyma fi'n gweld angel arall yn codi o gyfeiriad y dwyrain. Roedd sêl y Duw byw ganddo, a gwaeddodd yn uchel ar y pedwar angel oedd wedi cael y gallu i wneud niwed i'r tir a'r môr:

3. “Peidiwch gwneud niwed i'r tir na'r môr na'r coed nes i ni roi marc gyda sêl Duw ar dalcen y rhai sy'n ei wasanaethu.”

4. Yna clywais faint o bobl oedd i gael eu marcio gyda'r sêl: cant pedwar deg pedwar o filoedd o bobl llwythau Israel:

5. Cafodd deuddeg mil eu marcio o lwyth Jwda,deuddeg mil o lwyth Reuben,deuddeg mil o lwyth Gad,

6. deuddeg mil o lwyth Aser,deuddeg mil o lwyth Nafftali,deuddeg mil o lwyth Manasse,

7. deuddeg mil o lwyth Simeon,deuddeg mil o lwyth Lefi,deuddeg mil o lwyth Issachar,

8. deuddeg mil o lwyth Sabulon,deuddeg mil o lwyth Joseff,a deuddeg mil o lwyth Benjamin.

9. Edrychais eto ac roedd tyrfa enfawr o bobl o'm blaen i – tyrfa mor aruthrol fawr, doedd dim gobaith i neb hyd yn oed ddechrau eu cyfri! Roedden nhw yn dod o bob cenedl, llwyth, hil ac iaith, ac yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen. Roedden nhw'n gwisgo mentyll gwynion, ac roedd canghennau palmwydd yn eu dwylo.

10. Roedden nhw'n gweiddi'n uchel:“Ein Duw sydd wedi'n hachub ni! –yr Un sy'n eistedd ar yr orsedd,a'r Oen!”

11. Roedd yr holl angylion yn sefyll o gwmpas yr orsedd ac o gwmpas yr arweinwyr ysbrydol a'r pedwar creadur byw. A dyma nhw'n syrthio i lawr ar eu hwynebau o flaen yr orsedd ac yn addoli Duw,

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 7