Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 6:5-14 beibl.net 2015 (BNET)

5. Pan agorodd yr Oen y drydedd sêl, clywais y trydydd creadur byw yn cyhoeddi'n uchel, “Tyrd allan!” Edrychais, ac yn sydyn roedd ceffyl du o'm blaen i, a'r marchog ar ei gefn yn dal clorian yn ei law.

6. Yna clywais lais yn dod o ble roedd y pedwar creadur byw, yn cyhoeddi'n uchel: “Cyflog diwrnod llawn am lond dwrn o wenith, neu am ryw ychydig o haidd! Ond paid gwneud niwed i'r coed olewydd a'r gwinwydd!”

7. Pan agorodd yr Oen y bedwaredd sêl, clywais lais y pedwerydd creadur byw yn galw'n uchel, “Tyrd allan!”

8. Edrychais, ac yn sydyn roedd ceffyl llwyd o'm blaen i! Marwolaeth oedd enw'r marchog oedd ar ei gefn, ac roedd Byd y Meirw yn dilyn yn glos y tu ôl iddo. Dyma nhw'n cael awdurdod dros chwarter y ddaear – awdurdod i ladd gyda'r cleddyf, newyn a haint, ac anifeiliaid gwylltion.

9. Pan agorodd y bumed sêl, gwelais o dan yr allor y rhai oedd wedi cael eu lladd am gyhoeddi neges Duw yn ffyddlon.

10. Roedden nhw'n gweiddi'n uchel, “O Feistr Sofran, sanctaidd a gwir! Faint mwy sydd raid i ni aros cyn i ti farnu'r bobl sy'n perthyn i'r ddaear, a dial arnyn nhw am ein lladd ni?”

11. Yna dyma fantell wen yn cael ei rhoi i bob un ohonyn nhw. A gofynnwyd iddyn nhw aros ychydig yn hirach, nes i nifer cyflawn y rhai oedd yn gwasanaethu gyda nhw gyrraedd, sef y brodyr a'r chwiorydd fyddai'n cael eu lladd fel cawson nhw eu lladd.

12. Wrth i mi wylio'r Oen yn agor y chweched sêl buodd daeargryn mawr. Trodd yr haul yn ddu fel dillad galar, a'r lleuad yn goch i gyd fel gwaed.

13. Dyma'r sêr yn dechrau syrthio fel ffigys gwyrdd yn disgyn oddi ar goeden pan mae gwynt cryf yn chwythu.

14. Diflannodd yr awyr fel sgrôl yn cael ei rholio. A chafodd pob mynydd ac ynys eu symud o'u lle.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 6