Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 4:5-11 beibl.net 2015 (BNET)

5. Roedd mellt a sŵn taranau yn dod o'r orsedd, ac o'i blaen roedd saith lamp yn llosgi, sef Ysbryd cyflawn perffaith Duw.

6. Hefyd o flaen yr orsedd roedd rhywbeth tebyg i fôr o wydr, yn glir fel grisial. Yn y canol o gwmpas yr orsedd, roedd pedwar creadur byw gyda llygaid yn eu gorchuddio, o'r tu blaen a'r tu ôl.

7. Roedd y creadur cyntaf yn debyg i lew, yr ail yn debyg i lo, roedd gan y trydydd wyneb dynol, ac roedd y pedwerydd fel eryr yn hedfan.

8. Roedd gan bob un o'r creaduriaid chwe adain wedi eu gorchuddio'n llwyr gyda llygaid, hyd yn oed o dan yr adenydd. Roedden nhw'n siantio drosodd a throsodd, heb orffwys nos na dydd: “Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd ydy'r Arglwydd Dduw Hollalluog, yr Un oedd, ac sydd,ac sy'n mynd i ddod.”

9. Yna wrth i'r creaduriaid byw roi clod ac anrhydedd a diolch i'r Un sy'n eistedd ar yr orsedd, sef yr Un sy'n byw am byth bythoedd,

10. roedd y dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn ei addoli hefyd. Wrth osod eu coronau ar lawr o flaen yr orsedd roedden nhw'n dweud:

11. “Ein Harglwydd a'n Duw!Rwyt ti'n deilwngo'r clod a'r anrhydedd a'r nerth.Ti greodd bob peth,ac mae popeth wedi eu creu yn bodoliam mai dyna oeddet ti eisiau.”

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 4