Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 4:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yna ces i weledigaeth. Roedd drws agored yn y nefoedd o'm blaen i. A dyma'r llais roeddwn wedi ei glywed yn siarad â mi ar y cychwyn (y llais hwnnw oedd yn glir fel trwmped), yn dweud: “Tyrd i fyny yma, a bydda i'n dangos i ti beth sy'n mynd i ddigwydd ar ôl hyn.”

2. Yn sydyn roeddwn i dan ddylanwad yr Ysbryd Glân, ac o'm blaen i roeddwn i'n gweld gorsedd yn y nefoedd gyda rhywun yn eistedd arni.

3. Roedd yr Un oedd yn eistedd arni yn disgleirio fel gemau iasbis a sardion, ac roedd enfys hardd fel emrallt o gwmpas yr orsedd.

4. Roedd dau ddeg pedair gorsedd arall o'i chwmpas hefyd, gydag arweinydd ysbrydol yn eistedd ar bob un. Roedden nhw'n gwisgo dillad gwyn ac roedd coronau aur ar eu pennau.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 4