Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 21:4-24 beibl.net 2015 (BNET)

4. Bydd yn sychu pob deigryn o'u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel yr oedden nhw wedi mynd.”

5. Dyma'r Un oedd yn eistedd ar yr orsedd yn dweud,“Edrychwch! Dw i'n gwneud popeth yn newydd!”Meddai wedyn, “Ysgrifenna hynny i lawr. Mae beth dw i'n ei ddweud yn gwbl ddibynadwy ac yn wir.”

6. Meddai wrtho i: “Dyna ddiwedd y cwbl! Fi ydy'r Alffa a'r Omega, y Dechrau a'r Diwedd. Bydda i'n rhoi diod o ffynnon dŵr y bywyd i'r rhai hynny sy'n sychedig – yn rhad ac am ddim!

7. Bydd y rhai sy'n ennill y frwydr yn etifeddu'r pethau yma i gyd. Fi fydd eu Duw nhw, a byddan nhw'n blant i mi.

8. Ond am y rhai llwfr hynny sydd ddim yn credu, a phobl ffiaidd, llofruddion, pobl sy'n anfoesol yn rhywiol, y rhai sy'n ymarfer dewiniaeth ac yn addoli eilun-dduwiau, ac sy'n dweud celwydd – y llyn tân sy'n llosgi brwmstan ydy eu lle nhw! Dyna'r ‛ail farwolaeth‛.”

9. Yna dyma un o'r saith angel oedd yn dal y powlenni llawn o'r saith pla olaf yn dod ata i a dweud, “Tyrd, a gwna i ddangos y briodferch i ti, sef gwraig yr Oen.”

10. Dyma'r angel yn fy nghodi dan ddylanwad yr Ysbryd a mynd a fi i fynydd mawr uchel. Dangosodd y ddinas sanctaidd i mi, Jerwsalem, yn dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd.

11. Roedd ysblander Duw ei hun yn tywynnu ohoni; roedd hi'n disgleirio fel gem anhygoel o werthfawr – fel iasbis, yn glir fel grisial!

12. Roedd anferth o wal uchel o'i chwmpas gyda deuddeg giât ynddi, a deuddeg angel yn gwarchod y giatiau. Roedd enwau deuddeg llwyth Israel wedi eu hysgrifennu ar y giatiau.

13. Roedd tair giât ar yr ochr ddwyreiniol, tair i'r gogledd, tair i'r de a thair i'r gorllewin.

14. Roedd gan wal y ddinas ddeuddeg carreg sylfaen, ac roedd enwau deuddeg cynrychiolydd yr Oen wedi eu hysgrifennu ar y rheiny.

15. Roedd ffon fesur aur gan yr angel oedd yn siarad gyda mi, er mwyn iddo fesur y ddinas, ei giatiau a'i waliau.

16. Roedd y ddinas yn berffaith sgwâr. Pan fesurodd yr angel y ddinas gyda'r ffon fesur cafodd ei bod hi'n 2,250 cilomedr o hyd, ac mai dyna hefyd oedd ei lled a'i huchder.

17. Pan fesurodd yr angel y wal, cafodd ei bod yn chwe deg pum metr o drwch – yn ôl y mesur cyffredin.

18. Roedd y wal wedi ei hadeiladu o faen iasbis, a'r ddinas wedi ei gwneud o aur pur, mor bur â gwydr.

19. Roedd sylfeini waliau'r ddinas wedi eu haddurno gyda phob math o emau gwerthfawr. Maen iasbis oedd y sylfaen cyntaf, saffir oedd yr ail, y trydydd yn galcedon, a'r pedwerydd yn emrallt;

20. onics oedd y pumed, carnelian y chweched, saffir melyn y seithfed, beryl yr wythfed, topas y nawfed, a crysopras y degfed; maen iasinth oedd yr unfed ar ddeg ac amethyst oedd y deuddegfed.

21. Roedd giatiau'r ddinas wedi eu gwneud o berlau, pob giât unigol wedi ei gwneud o un perl mawr. Ac roedd heol fawr y ddinas yn aur oedd mor bur â gwydr clir!

22. Doedd dim teml i'w gweld yn y ddinas, am fod yr Arglwydd Dduw Hollalluog a'r Oen yno, fel teml.

23. Does dim angen golau haul na lleuad yn y ddinas chwaith, am fod ysblander Duw ei hun yn ei goleuo hi, a'r Oen fel lamp yn ei goleuo hi.

24. Bydd y cenhedloedd yn byw yn ei golau, a bydd brenhinoedd y ddaear yn dod â'u holl gyfoeth i mewn iddi hi.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 21