Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 20:11-15 beibl.net 2015 (BNET)

11. Yna gwelais orsedd wen fawr a Duw yn eistedd arni. Dyma'r ddaear a'r awyr yn dianc oddi wrtho ac yn diflannu am byth.

12. A dyma fi'n gweld pawb oedd wedi marw, pobl fawr a phobl gyffredin, yn sefyll o flaen yr orsedd. Dyma'r llyfrau amdanyn nhw yn cael eu hagor. Yna agorwyd llyfr arall, sef Llyfr y Bywyd. Cafodd pob un ei farnu am beth roedd wedi ei wneud – roedd popeth amdanyn nhw wedi cael ei gofnodi yn y llyfrau.

13. Dyma'r môr yn rhoi yn ôl y bobl oedd wedi marw ynddo, a dyma Marwolaeth a Byd y Meirw yn rhoi'r bobl oedd ynddyn nhw yn ôl. Yna cafodd pob un ei farnu am beth roedd wedi ei wneud.

14. Wedyn cafodd Marwolaeth a Byd y Meirw eu taflu i'r llyn tân. Y llyn tân ydy'r ‛ail farwolaeth‛.

15. Cafodd pob un doedd eu henwau nhw ddim wedi eu hysgrifennu yn Llyfr y Bywyd eu taflu i'r llyn tân.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 20