Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 19:15-21 beibl.net 2015 (BNET)

15. Roedd cleddyf miniog yn dod allan o'i geg, a bydd yn ei ddefnyddio i daro'r cenhedloedd i lawr. “Bydd yn teyrnasu drostyn nhw gyda theyrnwialen haearn.” Bydd yn sathru'r gwinwryf (sy'n cynrychioli digofaint ffyrnig y Duw Hollalluog).

16. Ar ei fantell wrth ei glun mae'r teitl hwn wedi ei ysgrifennu:BRENIN AR FRENHINOEDD AC ARGLWYDD AR ARGLWYDDI.

17. Yna gwelais angel yn sefyll ar yr haul, ac yn galw'n uchel ar yr holl adar oedd yn hedfan yn yr awyr, “Dewch at eich gilydd i fwynhau'r wledd sydd gan Dduw ar eich cyfer chi!

18. Cewch fwyta cyrff marw brenhinoedd, arweinwyr milwrol, milwyr, ceffylau a'u marchogion, a chyrff marw pob math o bobl – dinasyddion rhydd a chaethweision, pobl gyffredin a phobl fawr.”

19. Wedyn gwelais yr anghenfil a brenhinoedd y ddaear a'u byddinoedd wedi casglu at ei gilydd i ymladd yn erbyn yr un oedd yn marchogaeth y ceffyl, ac yn erbyn ei fyddin.

20. Ond daliwyd yr anghenfil, a hefyd y proffwyd ffug oedd wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol ar ei ran. Gyda'i wyrthiau roedd wedi llwyddo i dwyllo y bobl hynny oedd wedi eu marcio gyda marc yr anghenfil ac wedi addoli ei ddelw. Cafodd yr anghenfil a'r proffwyd ffug eu taflu yn fyw i'r llyn tân sy'n llosgi brwmstan.

21. Cafodd y gweddill ohonyn nhw eu lladd gan y cleddyf oedd yn dod allan o geg yr un oedd yn marchogaeth ar gefn y ceffyl. Daeth yr holl adar a gwledda ar y cyrff marw.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 19