Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 18:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yna gwelais angel arall yn dod i lawr o'r nefoedd. Roedd ganddo awdurdod mawr, ac roedd ei ysblander yn goleuo'r ddaear.

2. Cyhoeddodd yn uchel: “Mae wedi syrthio! Mae Babilon fawr wedi syrthio! Mae wedi troi'n gartref i gythreuliaidac yn gyrchfan i'r holl ysbrydion drwgac i bob aderyn aflan,ac i bob anifail aflan a ffiaidd.

3. Mae'r holl genhedloedd wedi yfed gwin ei chwant anfoesol nwydwyllt. Mae brenhinoedd y ddaear wedi cael rhyw gyda'r butain, ac mae pobl fusnes y ddaear wedi ennill cyfoeth mawr o'i moethusrwydd eithafol.”

4. Wedyn clywais lais arall o'r nefoedd yn dweud: “Fy mhobl, dewch allan o'r ddinas, er mwyn i chi beidio pechu gyda hi.Wedyn bydd y plâu fydd yn dod i'w chosbi hiddim yn eich cyffwrdd chi.

5. Mae ei phechodau hi yn bentwr anferth i'r nefoedd,ac mae Duw wedi cofio ei holl droseddau hi.

6. Gwna iddi hi beth mae hi wedi ei wneud i eraill; tala nôl iddi ddwywaith cymaint ag mae wedi ei wneud. Rho iddi siâr ddwbl o'i ffisig ei hun!

7. Yn lle'r ysblander a'r moethusrwydd gymerodd iddi ei hun,rho'r un mesur o boen a gofid iddi hi.Mae hi mor siŵr ohoni hi ei hun!‘Brenhines ydw i, yn eistedd ar orsedd;fydda i ddim yn weddw,a fydd dim rhaid i mi alaru byth!’ meddai.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 18