Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 16:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Wedyn clywais lais o'r deml yn dweud yn glir wrth y saith angel, “Ewch! Tywalltwch saith powlen digofaint Duw ar y ddaear!”

2. Dyma'r angel cyntaf yn mynd ac yn tywallt beth oedd yn ei fowlen ar y tir. Dyma friwiau cas yn dod i'r golwg ar gyrff y bobl hynny oedd â marc yr anghenfil arnyn nhw ac oedd yn addoli ei ddelw.

3. Yna dyma'r ail angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar y môr, a throdd fel gwaed rhywun oedd wedi marw. Dyma bopeth yn y môr yn marw.

4. Yna dyma'r trydydd angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen ar yr afonydd a'r ffynhonnau dŵr, a dyma nhw'n troi'n waed.

5. A dyma fi'n clywed yr angel oedd yn gyfrifol am y dyfroedd yn dweud:“Rwyt ti'n gyfiawn wrth gosbi fel hyn –yr Un sydd, ac oedd – yr Un Sanctaidd!

6. Maen nhw wedi tywallt gwaeddy bobl di a'th broffwydi,ac rwyt ti wedi rhoi gwaed iddyn nhw ei yfed.Dyna maen nhw yn ei haeddu!”

7. A dyma fi'n clywed rhywun o'r allor yn ateb:“Ie wir, Arglwydd Dduw Hollalluog,mae dy ddyfarniad di bob amseryn deg ac yn gyfiawn.”

8. Dyma'r pedwerydd angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar yr haul, a dyma'r haul yn cael y gallu i losgi pobl gyda'i wres.

9. Ond y cwbl wnaeth y bobl gafodd eu llosgi yn y gwres tanbaid oedd melltithio enw Duw, yr Un oedd yn rheoli'r plâu. Roedden nhw'n gwrthod newid eu ffyrdd a rhoi'r clod iddo.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 16