Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 14:4-11 beibl.net 2015 (BNET)

4. Dyma'r rhai sydd wedi cadw eu hunain yn bur, ac heb halogi eu hunain gyda gwragedd. Maen nhw'n dilyn yr Oen ble bynnag mae e'n mynd. Maen nhw wedi cael eu prynu i ryddid o blith y ddynoliaeth a'u cyflwyno i Dduw a'r Oen fel ffrwythau cyntaf y cynhaeaf.

5. Wnaethon nhw ddim dweud celwydd. Maen nhw'n gwbl ddi-fai.

6. Wedyn gwelais angel arall yn hedfan yn uchel yn yr awyr, ac roedd ganddo neges dragwyddol i'w chyhoeddi i bawb sy'n byw ar y ddaear; i bobl o bob cenedl, llwyth, iaith, a hil.

7. Roedd yn cyhoeddi'n uchel, “Ofnwch Dduw, a rhoi'r clod iddo! Mae'r amser iddo farnu wedi dod. Addolwch yr Un greodd y nefoedd, y ddaear, y môr a'r ffynhonnau dŵr!”

8. Dyma ail angel yn ei ddilyn gan gyhoeddi hyn: “Mae wedi syrthio! Mae Babilon fawr wedi syrthio! – yr un wnaeth i'r holl genhedloedd yfed gwin ei chwant anfoesol nwydwyllt.”

9. Yna daeth trydydd angel ar eu hôl yn cyhoeddi'n uchel: “Pwy bynnag sy'n addoli'r anghenfil a'i ddelw, ac sydd â'i farc ar eu talcen neu ar eu llaw,

10. bydd rhaid iddyn nhw yfed gwin digofaint Duw. Mae'n win cryf ac wedi ei dywallt i gwpan ei lid. Byddan nhw'n cael eu poenydio gyda thân a brwmstan yng ngwydd yr angylion sanctaidd a'r Oen.

11. A bydd y mwg o'r tân sy'n eu poenydio yn codi am byth bythoedd. Fydd dim gorffwys o gwbl i'r rhai sy'n addoli'r anghenfil a'i ddelw, nac i unrhyw un sydd wedi ei farcio â'i enw.”

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 14