16. Felly dyma'r un oedd yn eistedd ar y cwmwl yn defnyddio'i gryman ar y ddaear ac yn casglu'r cynhaeaf.
17. Daeth angel arall allan o'r deml yn y nefoedd, ac roedd ganddo yntau gryman miniog.
18. Yna daeth angel arall eto allan o'r cysegr (yr un oedd yn gofalu am y tân ar yr allor). Galwodd yn uchel ar yr angel oedd â'r cryman miniog ganddo, “Defnyddia dy gryman i gasglu y sypiau grawnwin o winwydden y ddaear. Mae ei ffrwyth yn aeddfed.”
19. Felly dyma'r angel yn defnyddio'i gryman ar y ddaear, ac yn casglu'r cynhaeaf grawnwin a'i daflu i mewn i winwryf mawr digofaint Duw.
20. Cafodd y gwinwryf ei sathru y tu allan i waliau'r ddinas, a llifodd gwaed allan ohono. Roedd cymaint o waed nes ei fod mor uchel â ffrwynau ceffylau am bellter o tua 300 cilomedr.