Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 14:10-19 beibl.net 2015 (BNET)

10. bydd rhaid iddyn nhw yfed gwin digofaint Duw. Mae'n win cryf ac wedi ei dywallt i gwpan ei lid. Byddan nhw'n cael eu poenydio gyda thân a brwmstan yng ngwydd yr angylion sanctaidd a'r Oen.

11. A bydd y mwg o'r tân sy'n eu poenydio yn codi am byth bythoedd. Fydd dim gorffwys o gwbl i'r rhai sy'n addoli'r anghenfil a'i ddelw, nac i unrhyw un sydd wedi ei farcio â'i enw.”

12. Mae hyn yn dangos fod dycnwch pobl Dduw yn golygu bod yn ufudd i orchmynion Duw ac aros yn ffyddlon i Iesu.

13. Wedyn clywais lais o'r nefoedd yn dweud: “Ysgrifenna hyn: Mae'r bobl sydd wedi marw ar ôl dod i berthyn i'r Arglwydd wedi eu bendithio'n fawr!”“Ydyn wir!” meddai'r Ysbryd, “Byddan nhw'n gorffwys o'u gwaith caled. A bydd cofnod o beth wnaethon nhw yn mynd ar eu holau.”

14. Edrychais eto, ac roedd cwmwl gwyn o'm blaen i. Roedd un “oedd yn edrych fel person dynol” yn eistedd ar y cwmwl; roedd ganddo goron o aur am ei ben a chryman miniog yn ei law.

15. Yna daeth angel arall allan o'r deml a galw'n uchel ar yr un oedd yn eistedd ar y cwmwl, “Defnyddia dy gryman i ddechrau medi'r cynhaeaf! Mae cynhaeaf y ddaear yn aeddfed ac mae'n amser medi.”

16. Felly dyma'r un oedd yn eistedd ar y cwmwl yn defnyddio'i gryman ar y ddaear ac yn casglu'r cynhaeaf.

17. Daeth angel arall allan o'r deml yn y nefoedd, ac roedd ganddo yntau gryman miniog.

18. Yna daeth angel arall eto allan o'r cysegr (yr un oedd yn gofalu am y tân ar yr allor). Galwodd yn uchel ar yr angel oedd â'r cryman miniog ganddo, “Defnyddia dy gryman i gasglu y sypiau grawnwin o winwydden y ddaear. Mae ei ffrwyth yn aeddfed.”

19. Felly dyma'r angel yn defnyddio'i gryman ar y ddaear, ac yn casglu'r cynhaeaf grawnwin a'i daflu i mewn i winwryf mawr digofaint Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 14