Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 14:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Edrychais wedyn, a dyma welais: yr Oen yn sefyll ar Fynydd Seion. Roedd cant pedwar deg pedwar mil o bobl gydag e, ac roedd ei enw e ac enw ei Dad ar eu talcennau.

2. Yna clywais sŵn o'r nefoedd oedd yn debyg i raeadrau o ddŵr neu daran uchel. Sŵn telynorion yn canu eu telynau oedd e.

3. Dyna ble roedden nhw, yn canu cân newydd o flaen yr orsedd a'r pedwar creadur byw a'r arweinwyr ysbrydol. Dim ond y cant pedwar deg pedwar mil o bobl oedd wedi eu rhyddhau o'r ddaear oedd yn gallu dysgu'r gân hon.

4. Dyma'r rhai sydd wedi cadw eu hunain yn bur, ac heb halogi eu hunain gyda gwragedd. Maen nhw'n dilyn yr Oen ble bynnag mae e'n mynd. Maen nhw wedi cael eu prynu i ryddid o blith y ddynoliaeth a'u cyflwyno i Dduw a'r Oen fel ffrwythau cyntaf y cynhaeaf.

5. Wnaethon nhw ddim dweud celwydd. Maen nhw'n gwbl ddi-fai.

6. Wedyn gwelais angel arall yn hedfan yn uchel yn yr awyr, ac roedd ganddo neges dragwyddol i'w chyhoeddi i bawb sy'n byw ar y ddaear; i bobl o bob cenedl, llwyth, iaith, a hil.

7. Roedd yn cyhoeddi'n uchel, “Ofnwch Dduw, a rhoi'r clod iddo! Mae'r amser iddo farnu wedi dod. Addolwch yr Un greodd y nefoedd, y ddaear, y môr a'r ffynhonnau dŵr!”

8. Dyma ail angel yn ei ddilyn gan gyhoeddi hyn: “Mae wedi syrthio! Mae Babilon fawr wedi syrthio! – yr un wnaeth i'r holl genhedloedd yfed gwin ei chwant anfoesol nwydwyllt.”

9. Yna daeth trydydd angel ar eu hôl yn cyhoeddi'n uchel: “Pwy bynnag sy'n addoli'r anghenfil a'i ddelw, ac sydd â'i farc ar eu talcen neu ar eu llaw,

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 14