Hen Destament

Testament Newydd

Colosiaid 4:9-13 beibl.net 2015 (BNET)

9. A dw i wedi anfon Onesimws gydag e, brawd ffyddlon ac annwyl arall sy'n un ohonoch chi. Byddan nhw'n dweud wrthoch chi am y cwbl sy'n digwydd yma.

10. Mae Aristarchus, sydd yn y carchar gyda mi, yn anfon ei gyfarchion atoch chi. Hefyd Marc, cefnder Barnabas. (Mae hyn wedi ei ddweud o'r blaen – os daw Marc atoch, rhowch groeso iddo.)

11. Mae Iesu (yr un sy'n cael ei alw'n Jwstus) yn anfon ei gyfarchion hefyd. Nhw ydy'r unig Gristnogion Iddewig sy'n gweithio gyda mi. Maen nhw'n gweithio gyda mi dros deyrnas Dduw, ac maen nhw wedi bod yn gysur mawr i mi.

12. Mae Epaffras yn anfon ei gyfarchion – un arall o'ch plith chi sy'n was i'r Meseia Iesu. Mae bob amser yn gweddïo'n daer drosoch chi, ac yn gofyn i Dduw eich gwneud chi'n gryf ac aeddfed, ac yn gwbl hyderus eich bod yn gwneud beth mae Duw eisiau.

13. Dw i'n dyst ei fod e'n gweithio'n galed drosoch chi a'r Cristnogion sydd yn Laodicea a Hierapolis.

Darllenwch bennod gyflawn Colosiaid 4