Hen Destament

Testament Newydd

Colosiaid 4:10-18 beibl.net 2015 (BNET)

10. Mae Aristarchus, sydd yn y carchar gyda mi, yn anfon ei gyfarchion atoch chi. Hefyd Marc, cefnder Barnabas. (Mae hyn wedi ei ddweud o'r blaen – os daw Marc atoch, rhowch groeso iddo.)

11. Mae Iesu (yr un sy'n cael ei alw'n Jwstus) yn anfon ei gyfarchion hefyd. Nhw ydy'r unig Gristnogion Iddewig sy'n gweithio gyda mi. Maen nhw'n gweithio gyda mi dros deyrnas Dduw, ac maen nhw wedi bod yn gysur mawr i mi.

12. Mae Epaffras yn anfon ei gyfarchion – un arall o'ch plith chi sy'n was i'r Meseia Iesu. Mae bob amser yn gweddïo'n daer drosoch chi, ac yn gofyn i Dduw eich gwneud chi'n gryf ac aeddfed, ac yn gwbl hyderus eich bod yn gwneud beth mae Duw eisiau.

13. Dw i'n dyst ei fod e'n gweithio'n galed drosoch chi a'r Cristnogion sydd yn Laodicea a Hierapolis.

14. Mae ein ffrind annwyl, doctor Luc, a Demas hefyd, yn anfon eu cyfarchion.

15. Cofiwch fi at y brodyr a'r chwiorydd yn Laodicea, a hefyd at Nymffa a'r eglwys sy'n cyfarfod yn ei thŷ hi.

16. Ar ôl i'r llythyr yma gael ei ddarllen i chi, anfonwch e ymlaen i Laodicea i'w ddarllen i'r gynulleidfa yno. A gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen y llythyr anfonais i yno.

17. Dwedwch hyn wrth Archipus: “Gwna'n siŵr dy fod yn gorffen y gwaith mae'r Arglwydd wedi ei roi i ti.”

18. Dw i'n ysgrifennu'r cyfarchiad yma yn fy llawysgrifen fy hun: PAUL. Cofiwch fy mod i yn y carchar. Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol Duw!

Darllenwch bennod gyflawn Colosiaid 4