Rhaid i chi sy'n gaethweision fod yn ufudd i'ch meistri bob amser. Peidiwch gwneud hynny dim ond pan maen nhw'n eich gwylio chi, er mwyn ceisio ennill eu ffafr nhw. Byddwch yn ddidwyll wrth ufuddhau iddyn nhw, am eich bod chi'n parchu'r Arglwydd.