Hen Destament

Testament Newydd

Colosiaid 2:11-23 beibl.net 2015 (BNET)

11. Wrth ddod ato fe, cawsoch eich ‛enwaedu‛ yn yr ystyr o dorri gafael y natur bechadurus arnoch chi. (Dim y ddefod gorfforol o enwaedu, ond yr ‛enwaediad‛ ysbrydol mae'r Meseia yn ei gyflawni.)

12. Wrth gael eich bedyddio cawsoch eich claddu gydag e, a'ch codi i fywyd newydd wrth i chi gredu yng ngallu Duw, wnaeth ei godi e yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw.

13. Pobl baganaidd o'r cenhedloedd oeddech chi, yn farw'n ysbrydol o achos eich pechodau, ond gwnaeth Duw chi'n fyw gyda'r Meseia. Mae wedi maddau ein holl bechodau ni,

14. ac wedi canslo'r ddogfen oedd yn dweud faint oedden ni mewn dyled. Cymerodd e'i hun y ddogfen honno a'i hoelio ar y groes.

15. Wedi iddo ddiarfogi'r pwerau a'r awdurdodau, arweiniodd nhw mewn prosesiwn gyhoeddus – fel carcharorion rhyfel wedi eu concro ganddo ar y groes.

16. Felly peidiwch gadael i unrhyw un eich beirniadu chi am beidio cadw mân-reolau am beth sy'n iawn i'w fwyta a'i yfed, neu am ddathlu gwyliau crefyddol, Gŵyl y lleuad newydd neu'r Saboth.

17. Doedd rheolau felly yn ddim byd ond cysgodion gwan o beth oedd i ddod – dim ond yn y Meseia y dewch chi o hyd i'r peth go iawn.

18. Peidiwch gadael i unrhyw un sy'n cael boddhad o ddisgyblu'r hunan eich condemnio chi. Maen nhw'n honni eu bod nhw'n gallu mynd i bresenoldeb yr angylion sy'n addoli Duw, ac yn mynd i fanylion ynglŷn â beth maen nhw wedi ei weld. Maen nhw'n meddwl eu bod nhw'n well na phawb arall, ond does dim byd ysbrydol am eu syniadau gwag nhw.

19. Dyn nhw ddim wedi dal gafael yn y Meseia. Fe ydy pen y corff. Mae pob rhan o'r corff yn cael ei ddal gyda'i gilydd gan y cymalau a'r gewynnau ac yn tyfu fel mae Duw am iddo dyfu.

20. Buoch farw gyda'r Meseia, a dych chi wedi'ch rhyddhau o afael y dylanwadau drwg sy'n rheoli'r byd yma. Felly pam ydych chi'n dal i ddilyn rhyw fân reolau fel petaech chi'n dal i ddilyn ffordd y byd?

21. – “Peidiwch gwneud hyn! Peidiwch blasu hwn! Peidiwch cyffwrdd rhywbeth arall!”

22. (Mân-reolau wedi eu dyfeisio gan bobl ydy pethau felly! Mae bwyd wedi mynd unwaith mae wedi ei fwyta!)

23. Falle fod rheolau o'r fath yn ymddangos yn beth doeth i rai – defosiwn haearnaidd, disgyblu'r corff a'i drin yn llym – ond dŷn nhw'n dda i ddim i atal chwantau a meddyliau drwg.

Darllenwch bennod gyflawn Colosiaid 2