Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4

Hen Destament

Testament Newydd

Colosiaid 2 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dw i eisiau i chi wybod mor galed dw i'n gweithio drosoch chi a'r Cristnogion yn Laodicea, a dros lawer o bobl eraill sydd ddim wedi nghyfarfod i.

2. Y bwriad ydy rhoi hyder iddyn nhw a'u helpu i garu ei gilydd yn fwy, a bod yn hollol sicr eu bod wedi deall y cynllun dirgel roedd Duw wedi ei gadw o'r golwg o'r blaen. Y Meseia ei hun ydy hwnnw!

3. Mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth wedi eu storio ynddo fe.

4. Dw i'n dweud hyn wrthoch chi rhag i unrhyw un lwyddo i'ch twyllo chi gyda rhyw ddadleuon dwl sy'n swnio'n glyfar ond sydd ddim yn wir.

5. Er fy mod i ddim gyda chi, dw i'n meddwl amdanoch chi drwy'r amser, ac yn falch o weld mor ddisgybledig ydych chi'n byw ac mor gadarn ydy'ch ffydd chi yn y Meseia.

Rhybudd rhag credu syniadau eraill

6. Dych chi wedi derbyn y Meseia Iesu fel eich Arglwydd, felly daliwch ati i fyw yn ufudd iddo –

7. Cadwch eich gwreiddiau'n ddwfn ynddo, eich bywyd wedi ei adeiladu arno, eich hyder ynddo yn gadarn fel y cawsoch eich dysgu, a'ch bywydau yn gorlifo o ddiolch.

8. Peidiwch gadael i unrhyw un eich rhwymo chi gyda rhyw syniadau sy'n ddim byd ond nonsens gwag – syniadau sy'n dilyn traddodiadau dynol a'r dylanwadau drwg sy'n rheoli'r byd yma, yn lle dibynnu ar y Meseia.

9. Achos yn y Meseia mae dwyfoldeb yn ei gyflawnder yn byw mewn person dynol.

10. A dych chi hefyd yn gyflawn am eich bod yn perthyn i'r Meseia, sy'n ben ar bob grym ac awdurdod!

11. Wrth ddod ato fe, cawsoch eich ‛enwaedu‛ yn yr ystyr o dorri gafael y natur bechadurus arnoch chi. (Dim y ddefod gorfforol o enwaedu, ond yr ‛enwaediad‛ ysbrydol mae'r Meseia yn ei gyflawni.)

12. Wrth gael eich bedyddio cawsoch eich claddu gydag e, a'ch codi i fywyd newydd wrth i chi gredu yng ngallu Duw, wnaeth ei godi e yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw.

13. Pobl baganaidd o'r cenhedloedd oeddech chi, yn farw'n ysbrydol o achos eich pechodau, ond gwnaeth Duw chi'n fyw gyda'r Meseia. Mae wedi maddau ein holl bechodau ni,

14. ac wedi canslo'r ddogfen oedd yn dweud faint oedden ni mewn dyled. Cymerodd e'i hun y ddogfen honno a'i hoelio ar y groes.

15. Wedi iddo ddiarfogi'r pwerau a'r awdurdodau, arweiniodd nhw mewn prosesiwn gyhoeddus – fel carcharorion rhyfel wedi eu concro ganddo ar y groes.

16. Felly peidiwch gadael i unrhyw un eich beirniadu chi am beidio cadw mân-reolau am beth sy'n iawn i'w fwyta a'i yfed, neu am ddathlu gwyliau crefyddol, Gŵyl y lleuad newydd neu'r Saboth.

17. Doedd rheolau felly yn ddim byd ond cysgodion gwan o beth oedd i ddod – dim ond yn y Meseia y dewch chi o hyd i'r peth go iawn.

18. Peidiwch gadael i unrhyw un sy'n cael boddhad o ddisgyblu'r hunan eich condemnio chi. Maen nhw'n honni eu bod nhw'n gallu mynd i bresenoldeb yr angylion sy'n addoli Duw, ac yn mynd i fanylion ynglŷn â beth maen nhw wedi ei weld. Maen nhw'n meddwl eu bod nhw'n well na phawb arall, ond does dim byd ysbrydol am eu syniadau gwag nhw.

19. Dyn nhw ddim wedi dal gafael yn y Meseia. Fe ydy pen y corff. Mae pob rhan o'r corff yn cael ei ddal gyda'i gilydd gan y cymalau a'r gewynnau ac yn tyfu fel mae Duw am iddo dyfu.

20. Buoch farw gyda'r Meseia, a dych chi wedi'ch rhyddhau o afael y dylanwadau drwg sy'n rheoli'r byd yma. Felly pam ydych chi'n dal i ddilyn rhyw fân reolau fel petaech chi'n dal i ddilyn ffordd y byd?

21. – “Peidiwch gwneud hyn! Peidiwch blasu hwn! Peidiwch cyffwrdd rhywbeth arall!”

22. (Mân-reolau wedi eu dyfeisio gan bobl ydy pethau felly! Mae bwyd wedi mynd unwaith mae wedi ei fwyta!)

23. Falle fod rheolau o'r fath yn ymddangos yn beth doeth i rai – defosiwn haearnaidd, disgyblu'r corff a'i drin yn llym – ond dŷn nhw'n dda i ddim i atal chwantau a meddyliau drwg.