Hen Destament

Testament Newydd

Colosiaid 1:23-29 beibl.net 2015 (BNET)

23. Ond rhaid i chi ddal i gredu, a bod yn gryf ac yn gadarn, a pheidio gollwng gafael yn y gobaith sicr mae'r newyddion da yn ei gynnig i chi. Dyma'r newyddion da glywoch chi, ac sydd wedi ei gyhoeddi drwy'r byd i gyd. A dyna'r gwaith dw i, Paul, wedi ei gael i'w wneud.

24. Dw i'n falch o gael dioddef drosoch chi. Dw i'n cyflawni yn fy nghorff i beth o'r dioddef sydd ar ôl – sef ‛gofidiau'r Meseia‛ – a hynny er mwyn ei gorff, yr eglwys.

25. Dw i wedi dod yn was iddi am fod Duw wedi rhoi gwaith penodol i mi, i gyhoeddi'r neges yn llawn ac yn effeithiol i chi sydd ddim yn Iddewon.

26. Dyma'r cynllun dirgel gafodd ei gadw o'r golwg am oesoedd a chenedlaethau lawer, ond sydd bellach wedi ei ddangos i bobl Dduw.

27. Mae Duw wedi dewis dangos fod y dirgelwch ffantastig yma ar gyfer pobl o bob cenedl. Y dirgelwch ydy bod y Meseia yn byw ynoch chi; a dyna'r hyder sydd gynnoch chi y cewch chi ran yn y pethau gwych sydd i ddod!

28. Dŷn ni'n cyhoeddi'r neges amdano, ac yn rhybuddio a dysgu pawb mor ddoeth ag y gallwn ni. Dŷn ni eisiau cyflwyno pawb i Dduw yn ddilynwyr aeddfed i'r Meseia.

29. Dyna pam dw i'n gweithio mor galed gyda'r holl egni mae e'n ei roi i mi.

Darllenwch bennod gyflawn Colosiaid 1