Hen Destament

Testament Newydd

Colosiaid 1:1-18 beibl.net 2015 (BNET)

1. Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw yn gynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. A gan y brawd Timotheus hefyd,

2. At bobl Dduw yn Colosae sy'n ddilynwyr ffyddlon i'r Meseia:Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad yn ei roi i ni.

3. Dŷn ni bob amser yn diolch i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, pan dŷn ni'n gweddïo drosoch chi.

4. Dŷn ni wedi clywed am eich ffyddlondeb chi i'r Meseia Iesu ac am y cariad sydd gynnoch chi at bawb arall sy'n credu.

5. Mae'r ffydd a'r cariad hwnnw'n tarddu o'r gobaith hyderus y byddwch chi'n derbyn y cwbl sydd wedi ei storio yn y nefoedd i chi. Dych chi wedi clywed am hyn o'r blaen, pan gafodd y gwir (sef y newyddion da)

6. ei rannu gyda chi am y tro cyntaf. Mae'r newyddion da yn mynd ar led ac yn dwyn ffrwyth drwy'r byd i gyd, a dyna'n union sydd wedi digwydd yn eich plith chi ers y diwrnod cyntaf i chi glywed am haelioni rhyfeddol Duw, a dod i'w ddeall yn iawn.

7. Epaffras, ein cydweithiwr annwyl ni, ddysgodd hyn i gyd i chi, ac mae wedi bod yn gwasanaethu'r Meseia yn ffyddlon ar ein rhan ni.

8. Mae wedi dweud wrthon ni am y cariad mae'r Ysbryd wedi ei blannu ynoch chi.

9. Ac felly dŷn ni wedi bod yn dal ati i weddïo drosoch chi ers y diwrnod y clywon ni hynny. Dŷn ni'n gofyn i Dduw ddangos i chi yn union beth mae eisiau, a'ch gwneud chi'n ddoeth i allu deall pethau ysbrydol.

10. Pwrpas hynny yn y pen draw ydy i chi fyw fel mae Duw am i chi fyw, a'i blesio fe ym mhob ffordd: trwy fyw bywydau sy'n llawn o weithredoedd da o bob math, a dod i nabod Duw yn well.

11. Dŷn ni'n gweddïo y bydd Duw yn defnyddio'r holl rym anhygoel sydd ganddo i'ch gwneud chi'n gryfach ac yn gryfach. Wedyn byddwch chi'n gallu dal ati yn amyneddgar,

12. a diolch yn llawen i'r Tad. Fe sydd wedi'ch gwneud chi'n deilwng i dderbyn eich cyfran o beth mae wedi ei gadw i'w bobl ei hun yn nheyrnas y goleuni.

13. Mae e wedi'n hachub ni o'r tywyllwch oedd yn ein gormesu ni. Ac mae wedi dod â ni dan deyrnasiad y Mab mae'n ei garu.

14. Ei Fab sydd wedi'n gollwng ni'n rhydd! Mae wedi maddau'n pechodau ni!

15. Mae'n dangos yn union sut un ydy'r Duw anweledig –y ‛mab hynaf‛ wnaeth roi ei hun dros y greadigaeth gyfan.

16. Cafodd popeth ei greu ganddo fe:popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear,popeth sydd i'w weld,a phopeth sy'n anweledig –y grymoedd a'r pwerau sy'n llywodraethu a rheoli.Cafodd popeth ei greu ganddo fe,i'w anrhydeddu e.

17. Roedd yn bodoli o flaen popeth arall,a fe sy'n dal y cwbl gyda'i gilydd.

18. Fe hefyd ydy'r pen ar y corff, sef yr eglwys;Fe ydy ei ffynhonnell hi,a'r cyntaf i ddod yn ôl yn fyw.Felly mae e'n ben ar y cwbl i gyd.

Darllenwch bennod gyflawn Colosiaid 1