Hen Destament

Testament Newydd

Actau 9:8-20 beibl.net 2015 (BNET)

8. Cododd Saul ar ei draed, ond pan agorodd ei lygaid, doedd e ddim yn gallu gweld. Felly dyma nhw'n gafael yn ei law ac yn ei arwain i mewn i dre Damascus.

9. Arhosodd yno am dri diwrnod. Roedd yn ddall ac yn gwrthod bwyta nac yfed dim.

10. Yn byw yn Damascus roedd disgybl o'r enw Ananias oedd wedi cael gweledigaeth o'r Arglwydd yn galw arno – “Ananias!”“Ie, Arglwydd,” atebodd.

11. A dyma'r Arglwydd yn dweud wrtho, “Dos i dŷ Jwdas yn Stryd Union a gofyn am ddyn o Tarsus o'r enw Saul. Mae yno'n gweddïo.

12. Dw i wedi dangos iddo y bydd dyn o'r enw Ananias yn mynd ato a gosod ei ddwylo arno iddo gael ei olwg yn ôl.”

13. “Ond Arglwydd,” meddai Ananias, “dw i wedi clywed llawer o hanesion am y dyn yma. Mae wedi gwneud pethau ofnadwy i dy bobl di yn Jerwsalem.

14. Mae'r prif offeiriaid wedi rhoi awdurdod iddo ddod yma i arestio pawb sy'n credu ynot ti.”

15. Ond meddai'r Arglwydd wrth Ananias, “Dos! Dyma'r dyn dw i wedi ei ddewis i ddweud amdana i wrth bobl o genhedloedd eraill a'u brenhinoedd yn ogystal ag wrth bobl Israel.

16. Bydda i'n dangos iddo y bydd e'i hun yn dioddef llawer am fy nilyn i.”

17. Felly dyma Ananias yn mynd. Aeth i mewn i'r tŷ, gosod ei ddwylo ar Saul a dweud wrtho, “Saul, frawd. Mae'r Arglwydd Iesu, wnaeth ymddangos i ti ar dy ffordd yma, wedi fy anfon i atat ti er mwyn i ti gael dy olwg yn ôl, a chei dy lenwi â'r Ysbryd Glân hefyd.”

18. Yr eiliad honno dyma rywbeth tebyg i gen yn syrthio oddi ar lygaid Saul, ac roedd yn gallu gweld eto. Cododd ar ei draed a chafodd ei fedyddio.

19. Wedyn cymerodd rywbeth i'w fwyta, a chael ei gryfder yn ôl.Arhosodd Saul gyda'r disgyblion yn Damascus am beth amser.

20. Aeth ati ar unwaith i bregethu yn y synagogau mai Iesu ydy Mab Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 9