Hen Destament

Testament Newydd

Actau 9:34-43 beibl.net 2015 (BNET)

34. Dyma Pedr yn dweud wrtho, “Aeneas, mae Iesu y Meseia am dy iacháu di. Cod ar dy draed a phlyga dy fatras.” Cafodd Aeneas ei iacháu ar unwaith.

35. Dyma pawb oedd yn byw yn Lyda a Sharon yn troi at yr Arglwydd pan welon nhw Aeneas yn cerdded.

36. Yna yn Jopa, roedd disgybl o'r enw Tabitha (Dorcas fyddai ei henw yn yr iaith Roeg). Roedd hi bob amser wedi gwneud daioni a helpu pobl dlawd,

37. ond tua'r adeg yna aeth yn glaf, a buodd farw. Cafodd ei chorff ei olchi a'i osod i orwedd mewn ystafell i fyny'r grisiau.

38. Pan glywodd y credinwyr fod Pedr yn Lyda (sydd ddim yn bell iawn o Jopa), dyma nhw'n anfon dau ddyn ato i ofyn iddo, “Plîs, tyrd ar unwaith!”

39. Aeth Pedr gyda nhw, ac wedi iddo gyrraedd dyma fynd ag e i fyny'r grisiau i'r ystafell. Roedd yr ystafell yn llawn o wragedd gweddwon yn eu dagrau yn dangos iddo'r mentyll a'r dillad eraill roedd Dorcas wedi eu gwneud iddyn nhw pan roedd hi'n dal yn fyw.

40. Dyma Pedr yn anfon pawb allan o'r ystafell, ac yna aeth ar ei liniau a gweddïo. Yna trodd at gorff y wraig oedd wedi marw, a dweud wrthi, “Tabitha, cod ar dy draed.” Agorodd ei llygaid! A phan welodd Pedr eisteddodd i fyny.

41. Gafaelodd Pedr yn ei llaw a'i helpu i sefyll ar ei thraed. Wedyn galwodd Pedr y credinwyr a'r gwragedd gweddwon yn ôl i mewn a dangos iddyn nhw fod Dorcas yn fyw.

42. Dyma'r newyddion yn mynd ar led drwy dre Jopa fel tân gwyllt, a daeth llawer iawn o bobl i gredu yn yr Arglwydd.

43. Arhosodd Pedr yno am gryn amser, yn lletya yn nhÅ· gweithiwr lledr o'r enw Simon.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 9