1. Yn y cyfamser roedd Saul yn dal i fynd o gwmpas yn bygwth lladd dilynwyr yr Arglwydd. Roedd wedi mynd at yr Archoffeiriad
2. i ofyn am lythyrau i synagogau Damascus yn rhoi'r hawl iddo arestio unrhyw un oedd yn dilyn y Ffordd. Roedd ganddo awdurdod i gadw dynion a merched yn y ddalfa a mynd â nhw'n gaeth i Jerwsalem.
3. Roedd yn agos at Damascus pan fflachiodd golau disglair o'r nefoedd o'i gwmpas.
4. Syrthiodd ar lawr a chlywed llais yn dweud wrtho: “Saul? Saul? Pam rwyt ti'n fy erlid i?”
5. “Pwy wyt ti, syr?” gofynnodd Saul. “Iesu ydw i,” atebodd, “yr un rwyt ti'n ei erlid.
6. Nawr cod ar dy draed a dos i mewn i'r ddinas. Cei di wybod yno beth mae'n rhaid i ti ei wneud.”
7. Roedd y rhai oedd yn teithio gydag e yn sefyll yn fud; roedden nhw'n clywed y llais ond doedden nhw ddim yn gweld neb.
8. Cododd Saul ar ei draed, ond pan agorodd ei lygaid, doedd e ddim yn gallu gweld. Felly dyma nhw'n gafael yn ei law ac yn ei arwain i mewn i dre Damascus.