Hen Destament

Testament Newydd

Actau 8:4-20 beibl.net 2015 (BNET)

4. Roedd y credinwyr oedd wedi eu gwasgaru yn dweud wrth bobl beth oedd y newyddion da ble bynnag oedden nhw'n mynd.

5. Er enghraifft, aeth Philip i dref yn Samaria a chyhoeddi'r neges am y Meseia yno.

6. Roedd tyrfaoedd o bobl yn dod i wrando ar beth roedd Philip yn ei ddweud, wrth weld yr arwyddion gwyrthiol oedd e'n eu gwneud.

7. Roedd ysbrydion drwg yn dod allan o lawer o bobl gan sgrechian, ac roedd llawer o bobl oedd wedi eu parlysu neu'n gloff yn cael iachâd.

8. Felly roedd llawenydd anhygoel yn y dre.

9. Yn y dre honno roedd dewin o'r enw Simon wedi bod yn ymarfer ei swynion ers blynyddoedd, ac yn gwneud pethau oedd yn rhyfeddu pawb yn Samaria. Roedd yn ystyried ei hun yn rhywun pwysig dros ben.

10. Roedd pawb, o'r ifancaf i'r hynaf, yn sôn amdano ac yn dweud fod nerth y duw roedden nhw'n ei alw ‛Yr Un Pwerus‛ ar waith ynddo.

11. Roedd ganddo lawer o ddilynwyr, a phobl wedi cael eu syfrdanu ers blynyddoedd lawer gan ei ddewiniaeth.

12. Ond nawr, dyma'r bobl yn dod i gredu'r newyddion da oedd Philip yn ei gyhoeddi am Dduw yn teyrnasu ac am enw Iesu y Meseia. Cafodd nifer fawr o ddynion a merched eu bedyddio.

13. Yna credodd Simon ei hun a chael ei fedyddio. Ac roedd yn dilyn Philip i bobman, wedi ei syfrdanu'n llwyr gan y gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos mor glir fod Duw gyda Philip.

14. Pan glywodd yr apostolion yn Jerwsalem fod pobl yn Samaria wedi credu'r neges am Dduw, dyma nhw'n anfon Pedr ac Ioan yno.

15. Yn syth ar ôl cyrraedd, dyma nhw'n gweddïo dros y credinwyr newydd yma – ar iddyn nhw dderbyn yr Ysbryd Glân,

16. achos doedd yr Ysbryd Glân ddim wedi disgyn arnyn nhw eto. Y cwbl oedd wedi digwydd oedd eu bod wedi cael eu bedyddio fel arwydd eu bod nhw'n perthyn i'r Arglwydd Iesu.

17. Pan osododd Pedr ac Ioan eu dwylo arnyn nhw, dyma nhw'n derbyn yr Ysbryd Glân.

18. Pan welodd Simon fod yr Ysbryd Glân yn dod pan roedd yr apostolion yn gosod eu dwylo ar bobl, cynigodd dalu iddyn nhw am y gallu i wneud yr un peth.

19. “Rhowch y gallu yma i minnau hefyd, er mwyn i bawb fydda i yn gosod fy nwylo arnyn nhw dderbyn yr Ysbryd Glân,” meddai.

20. Ond dyma Pedr yn ei ateb, “Gad i dy arian bydru gyda ti! Rhag dy gywilydd di am feddwl y gelli di brynu rhodd Duw!

Darllenwch bennod gyflawn Actau 8