Hen Destament

Testament Newydd

Actau 8:26-40 beibl.net 2015 (BNET)

26. Roedd Philip wedi cael neges gan angel yr Arglwydd yn dweud wrtho: “Dos i lawr i'r de i ffordd yr anialwch, sef y ffordd o Jerwsalem i Gasa.”

27. Aeth Philip ar unwaith, a phan oedd ar ei ffordd dyma fe'n dod ar draws eunuch oedd yn swyddog pwysig yn llywodraeth y Candace, sef Brenhines Ethiopia – fe oedd pennaeth ei thrysorlys. Roedd wedi bod yn Jerwsalem yn addoli Duw,

28. ac roedd yn darllen llyfr proffwydoliaeth Eseia wrth deithio yn ei gerbyd ar ei ffordd adre.

29. Dyma'r Ysbryd Glân yn dweud wrth Philip, “Dos a rheda wrth ymyl y cerbyd acw.”

30. Felly dyma Philip yn rhedeg at y cerbyd, ac roedd yn clywed y dyn yn darllen o lyfr proffwydoliaeth Eseia. Felly gofynnodd Philip iddo, “Wyt ti'n deall beth rwyt ti'n ei ddarllen?”

31. “Sut alla i ddeall heb i rywun ei esbonio i mi?” meddai'r dyn. Felly gofynnodd i Philip fynd i eistedd yn y cerbyd gydag e.

32. Dyma'r adran o'r ysgrifau sanctaidd roedd yr eunuch yn ei ddarllen: “Cafodd ei arwain fel dafad i'r lladd-dy. Yn union fel mae oen yn dawel pan mae'n cael ei gneifio, wnaeth e ddweud dim.

33. Cafodd ei gam-drin heb achos llys teg. Sut mae'n bosib sôn am ddisgynyddion iddo? Cafodd ei dorri i ffwrdd o dir y byw.”

34. A dyma'r eunuch yn gofyn i Philip, “Dywed wrtho i, ydy'r proffwyd yn sôn amdano'i hun neu am rywun arall?”

35. Felly dyma Philip yn dechrau gyda'r rhan honno o'r ysgrifau sanctaidd, ac yn mynd ati i ddweud y newyddion da am Iesu wrtho.

36. Wrth fynd yn eu blaenau, dyma nhw'n dod at le lle roedd dŵr. “Edrych,” meddai'r eunuch, “mae dŵr yn y fan yma. Oes yna unrhyw reswm pam ddylwn i ddim cael fy medyddio?”

38. Rhoddodd orchymyn i'r cerbyd stopio. Wedyn aeth gyda Philip i lawr i'r dŵr, a dyma Philip yn ei fedyddio yn y fan a'r lle.

39. Wrth iddyn nhw ddod yn ôl allan o'r dŵr, dyma Ysbryd yr Arglwydd yn cipio Philip i ffwrdd. Wnaeth yr eunuch mo'i weld ar ôl hynny, ond aeth yn ei flaen ar ei daith yn llawen.

40. Cafodd Philip ei hun yn Asotus! Yna aeth yn ei flaen i Cesarea gan gyhoeddi'r newyddion da ym mhob un o'r trefi ar y ffordd.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 8