Hen Destament

Testament Newydd

Actau 8:18-36 beibl.net 2015 (BNET)

18. Pan welodd Simon fod yr Ysbryd Glân yn dod pan roedd yr apostolion yn gosod eu dwylo ar bobl, cynigodd dalu iddyn nhw am y gallu i wneud yr un peth.

19. “Rhowch y gallu yma i minnau hefyd, er mwyn i bawb fydda i yn gosod fy nwylo arnyn nhw dderbyn yr Ysbryd Glân,” meddai.

20. Ond dyma Pedr yn ei ateb, “Gad i dy arian bydru gyda ti! Rhag dy gywilydd di am feddwl y gelli di brynu rhodd Duw!

21. Does gen ti ddim rhan yn y gwaith – dydy dy berthynas di gyda Duw ddim yn iawn.

22. Tro dy gefn ar y drygioni yma a gweddïa ar yr Arglwydd. Falle y gwnaiff faddau i ti am feddwl y fath beth.

23. Rwyt ti'n ddyn chwerw, ac mae pechod wedi dy ddal di yn ei grafangau.”

24. Meddai Simon, “Gweddïa ar yr Arglwydd drosto i, fel na fydd beth rwyt ti'n ei ddweud yn digwydd i mi.”

25. Ar ôl tystiolaethu a chyhoeddi neges Duw yn Samaria, dyma Pedr ac Ioan yn mynd yn ôl i Jerwsalem. Ond ar eu ffordd dyma nhw'n galw yn nifer o bentrefi'r Samariaid i gyhoeddi'r newyddion da.

26. Roedd Philip wedi cael neges gan angel yr Arglwydd yn dweud wrtho: “Dos i lawr i'r de i ffordd yr anialwch, sef y ffordd o Jerwsalem i Gasa.”

27. Aeth Philip ar unwaith, a phan oedd ar ei ffordd dyma fe'n dod ar draws eunuch oedd yn swyddog pwysig yn llywodraeth y Candace, sef Brenhines Ethiopia – fe oedd pennaeth ei thrysorlys. Roedd wedi bod yn Jerwsalem yn addoli Duw,

28. ac roedd yn darllen llyfr proffwydoliaeth Eseia wrth deithio yn ei gerbyd ar ei ffordd adre.

29. Dyma'r Ysbryd Glân yn dweud wrth Philip, “Dos a rheda wrth ymyl y cerbyd acw.”

30. Felly dyma Philip yn rhedeg at y cerbyd, ac roedd yn clywed y dyn yn darllen o lyfr proffwydoliaeth Eseia. Felly gofynnodd Philip iddo, “Wyt ti'n deall beth rwyt ti'n ei ddarllen?”

31. “Sut alla i ddeall heb i rywun ei esbonio i mi?” meddai'r dyn. Felly gofynnodd i Philip fynd i eistedd yn y cerbyd gydag e.

32. Dyma'r adran o'r ysgrifau sanctaidd roedd yr eunuch yn ei ddarllen: “Cafodd ei arwain fel dafad i'r lladd-dy. Yn union fel mae oen yn dawel pan mae'n cael ei gneifio, wnaeth e ddweud dim.

33. Cafodd ei gam-drin heb achos llys teg. Sut mae'n bosib sôn am ddisgynyddion iddo? Cafodd ei dorri i ffwrdd o dir y byw.”

34. A dyma'r eunuch yn gofyn i Philip, “Dywed wrtho i, ydy'r proffwyd yn sôn amdano'i hun neu am rywun arall?”

35. Felly dyma Philip yn dechrau gyda'r rhan honno o'r ysgrifau sanctaidd, ac yn mynd ati i ddweud y newyddion da am Iesu wrtho.

36. Wrth fynd yn eu blaenau, dyma nhw'n dod at le lle roedd dŵr. “Edrych,” meddai'r eunuch, “mae dŵr yn y fan yma. Oes yna unrhyw reswm pam ddylwn i ddim cael fy medyddio?”

Darllenwch bennod gyflawn Actau 8