Hen Destament

Testament Newydd

Actau 8:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd Saul yno, yn cytuno'n llwyr y dylai Steffan farw.O'r diwrnod hwnnw ymlaen dechreuodd yr eglwys yn Jerwsalem gael ei herlid yn ffyrnig, a dyma pawb ond yr apostolion yn gwasgaru drwy Jwdea a Samaria.

2. Cafodd Steffan ei gladdu gan ddynion duwiol fu'n galaru'n fawr ar ei ôl.

3. Ond dyma Saul yn mynd ati i ddinistrio'r eglwys. Roedd yn mynd o un tŷ i'r llall ac yn arestio dynion a merched fel ei gilydd a'u rhoi yn y carchar.

4. Roedd y credinwyr oedd wedi eu gwasgaru yn dweud wrth bobl beth oedd y newyddion da ble bynnag oedden nhw'n mynd.

5. Er enghraifft, aeth Philip i dref yn Samaria a chyhoeddi'r neges am y Meseia yno.

6. Roedd tyrfaoedd o bobl yn dod i wrando ar beth roedd Philip yn ei ddweud, wrth weld yr arwyddion gwyrthiol oedd e'n eu gwneud.

7. Roedd ysbrydion drwg yn dod allan o lawer o bobl gan sgrechian, ac roedd llawer o bobl oedd wedi eu parlysu neu'n gloff yn cael iachâd.

8. Felly roedd llawenydd anhygoel yn y dre.

9. Yn y dre honno roedd dewin o'r enw Simon wedi bod yn ymarfer ei swynion ers blynyddoedd, ac yn gwneud pethau oedd yn rhyfeddu pawb yn Samaria. Roedd yn ystyried ei hun yn rhywun pwysig dros ben.

10. Roedd pawb, o'r ifancaf i'r hynaf, yn sôn amdano ac yn dweud fod nerth y duw roedden nhw'n ei alw ‛Yr Un Pwerus‛ ar waith ynddo.

11. Roedd ganddo lawer o ddilynwyr, a phobl wedi cael eu syfrdanu ers blynyddoedd lawer gan ei ddewiniaeth.

12. Ond nawr, dyma'r bobl yn dod i gredu'r newyddion da oedd Philip yn ei gyhoeddi am Dduw yn teyrnasu ac am enw Iesu y Meseia. Cafodd nifer fawr o ddynion a merched eu bedyddio.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 8