Hen Destament

Testament Newydd

Actau 4:7-19 beibl.net 2015 (BNET)

7. Dyma nhw'n galw Pedr ac Ioan i ymddangos o'u blaenau a dechrau eu holi: “Pa bŵer ysbrydol, neu pa enw wnaethoch chi ei ddefnyddio i wneud hyn?”

8. Dyma Pedr, wedi ei lenwi â'r Ysbryd Glân, yn eu hateb: “Arweinwyr a henuriaid y genedl.

9. Ydyn ni'n cael ein galw i gyfrif yma heddiw am wneud tro da i ddyn oedd yn methu cerdded? Os dych chi eisiau gwybod sut cafodd y dyn ei iacháu,

10. dweda i wrthoch chi. Dw i am i bobl Israel i gyd wybod! Enw Iesu y Meseia o Nasareth sydd wedi iacháu y dyn yma sy'n sefyll o'ch blaen chi. Yr Iesu wnaethoch chi ei groeshoelio, ond daeth Duw ag e yn ôl yn fyw.

11. Iesu ydy'r un mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fel hyn amdano: ‘Mae'r garreg wrthodwyd gynnoch chi'r adeiladwyr, wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen.’

12. Fe ydy'r unig un sy'n achub! Does neb arall yn unman sy'n gallu achub pobl.”

13. Roedd aelodau'r cyngor yn rhyfeddu fod Pedr ac Ioan mor hyderus. Roedden nhw'n gweld mai dynion cyffredin di-addysg oedden nhw, ond yn ymwybodol hefyd fod y dynion yma wedi bod gyda Iesu.

14. Gan fod y dyn oedd wedi cael ei iacháu yn sefyll yno o'u blaenau, doedd dim byd arall i'w ddweud.

15. Felly dyma nhw'n eu hanfon allan o'r Sanhedrin er mwyn trafod y mater gyda'i gilydd.

16. “Beth wnawn ni â'r dynion yma?” medden nhw. “Mae pawb yn Jerwsalem yn gwybod eu bod wedi cyflawni gwyrth anhygoel, a dŷn ni ddim yn gallu gwadu hynny.

17. Ond mae'n rhaid stopio hyn rhag mynd ymhellach. Rhaid i ni eu rhybuddio nhw i beidio dysgu am yr Iesu yma byth eto.”

18. Dyma nhw yn eu galw i ymddangos o'u blaenau unwaith eto, a dweud wrthyn nhw am beidio siarad am Iesu na dysgu amdano byth eto.

19. Ond dyma Pedr ac Ioan yn ateb, “Beth ydych chi'n feddwl fyddai Duw am i ni ei wneud – gwrando arnoch chi, neu ufuddhau iddo fe?

Darllenwch bennod gyflawn Actau 4