Hen Destament

Testament Newydd

Actau 4:21-35 beibl.net 2015 (BNET)

21. Dyma nhw'n eu bygwth eto, ond yna'n eu gollwng yn rhydd. Doedd dim modd eu cosbi nhw, am fod y bobl o'u plaid nhw. Roedd pawb yn moli Duw am yr hyn oedd wedi digwydd.

22. Roedd hi'n wyrth anhygoel! Roedd y dyn dros bedwar deg oed a doedd e ddim wedi cerdded erioed o'r blaen!

23. Ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau, dyma Pedr ac Ioan yn mynd yn ôl at eu ffrindiau a dweud yr hanes i gyd, a beth oedd y prif offeiriaid a'r henuriaid wedi ei fygwth.

24. Ar ôl clywed yr hanes, dyma nhw'n gweddïo gyda'i gilydd: “O Feistr Sofran,” medden nhw, “Ti sy'n rheoli'r cwbl, a thi ydy'r Un sydd wedi creu yr awyr a'r ddaear a'r môr a'r cwbl sydd ynddyn nhw.

25. Ti ddwedodd drwy'r Ysbryd Glân yng ngeiriau dy was, y Brenin Dafydd: ‘Pam mae'r cenhedloedd mor gynddeiriog, a'r bobloedd yn gwastraffu eu hamser yn cynllwynio?

26. Mae brenhinoedd daearol yn gwneud safiad a'r llywodraethwyr yn dod at ei gilydd i wrthwynebu'r Arglwydd, ac i wrthwynebu ei Eneiniog.’

27. “Dyna ddigwyddodd yn y ddinas yma! Daeth Herod Antipas a Pontius Peilat, pobl o Israel ac o genhedloedd eraill at ei gilydd yn erbyn Iesu, dy was sanctaidd wnest ti ei eneinio.

28. Ond dim ond gwneud beth roeddet ti wedi ei drefnu i ddigwydd oedden nhw!

29. Felly, Arglwydd, edrych arnyn nhw yn ein bygwth ni nawr. Rho'r gallu i dy weision i gyhoeddi dy neges di yn gwbl ddi-ofn.

30. Dangos dy fod ti gyda ni drwy ddal ati i iacháu pobl, a rhoi awdurdod dy was sanctaidd Iesu i ni, i wneud gwyrthiau rhyfeddol.”

31. Ar ôl iddyn nhw weddïo, dyma'r adeilad lle roedden nhw'n cyfarfod yn cael ei ysgwyd. Dyma nhw'n cael eu llenwi eto â'r Ysbryd Glân, ac roedden nhw'n cyhoeddi neges Duw yn gwbl ddi-ofn.

32. Roedd undod go iawn ymhlith y credinwyr i gyd. Doedd neb yn dweud “Fi biau hwnna!.” Roedden nhw'n rhannu popeth gyda'i gilydd.

33. Roedd cynrychiolwyr Iesu yn cael rhyw nerth rhyfedd i dystio'n glir fod yr Arglwydd Iesu wedi dod yn ôl yn fyw, ac roedden nhw i gyd yn teimlo fod Duw mor dda tuag atyn nhw.

34. Doedd neb ohonyn nhw mewn angen, am fod pobl oedd yn berchen tir neu dai yn eu gwerthu,

35. ac yn rhoi'r arian i'r apostolion i'w rannu i bwy bynnag oedd mewn angen.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 4