Hen Destament

Testament Newydd

Actau 4:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Tra oedd Pedr ac Ioan wrthi'n siarad â'r bobl dyma'r offeiriaid yn dod draw atyn nhw gyda phennaeth gwarchodlu'r deml a rhai o'r Sadwceaid.

2. Doedden nhw ddim yn hapus o gwbl fod Pedr ac Ioan yn dysgu'r bobl am Iesu ac yn dweud y byddai pobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw.

3. Felly dyma nhw'n arestio'r ddau a'u cadw yn y ddalfa dros nos am ei bod hi wedi mynd yn hwyr yn y dydd.

4. Ond roedd llawer o'r bobl a glywodd beth roedden nhw'n ei ddweud wedi dod i gredu. Erbyn hyn roedd tua pum mil o ddynion yn credu yn Iesu, heb sôn am y gwragedd a'r plant!

5. Y diwrnod wedyn dyma'r cyngor, sef yr arweinwyr a'r henuriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith, yn cyfarfod yn Jerwsalem.

6. Roedd Annas, yr archoffeiriad, yno, hefyd Caiaffas, Ioan, Alecsander ac aelodau eraill o deulu'r archoffeiriad.

7. Dyma nhw'n galw Pedr ac Ioan i ymddangos o'u blaenau a dechrau eu holi: “Pa bŵer ysbrydol, neu pa enw wnaethoch chi ei ddefnyddio i wneud hyn?”

8. Dyma Pedr, wedi ei lenwi â'r Ysbryd Glân, yn eu hateb: “Arweinwyr a henuriaid y genedl.

9. Ydyn ni'n cael ein galw i gyfrif yma heddiw am wneud tro da i ddyn oedd yn methu cerdded? Os dych chi eisiau gwybod sut cafodd y dyn ei iacháu,

10. dweda i wrthoch chi. Dw i am i bobl Israel i gyd wybod! Enw Iesu y Meseia o Nasareth sydd wedi iacháu y dyn yma sy'n sefyll o'ch blaen chi. Yr Iesu wnaethoch chi ei groeshoelio, ond daeth Duw ag e yn ôl yn fyw.

11. Iesu ydy'r un mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fel hyn amdano: ‘Mae'r garreg wrthodwyd gynnoch chi'r adeiladwyr, wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen.’

12. Fe ydy'r unig un sy'n achub! Does neb arall yn unman sy'n gallu achub pobl.”

Darllenwch bennod gyflawn Actau 4