Hen Destament

Testament Newydd

Actau 28:2-10 beibl.net 2015 (BNET)

2. Roedd pobl yr ynys yn hynod o garedig. Dyma nhw'n rhoi croeso i ni ac yn gwneud tân, am ei bod hi wedi dechrau glawio'n drwm, ac roedd hi'n oer.

3. Roedd Paul wedi casglu llwyth o frigau mân, ac wrth iddo eu gosod nhw ar y tân, dyma neidr wenwynig oedd yn dianc o'r gwres yn glynu wrth ei law.

4. Pan welodd pobl yr ynys y neidr yn hongian oddi ar ei law medden nhw, “Mae'n rhaid fod y dyn yna'n llofrudd! Dydy'r dduwies Cyfiawnder ddim am adael iddo fyw.”

5. Ond dyma Paul yn ysgwyd y neidr i ffwrdd yn ôl i'r tân. Chafodd e ddim niwed o gwbl.

6. Roedd y bobl yn disgwyl iddo chwyddo neu ddisgyn yn farw'n sydyn. Ond aeth amser hir heibio a dim byd yn digwydd iddo, felly dyma nhw'n dod i'r casgliad fod Paul yn dduw.

7. Roedd ystâd gyfagos yn perthyn i brif swyddog Rhufain ar yr ynys – dyn o'r enw Pobliws. Rhoddodd groeso mawr i ni, a dyma ni'n aros yn ei gartref am dridiau.

8. Roedd tad Pobliws yn glaf yn ei wely, yn dioddef pyliau o wres uchel a dysentri. Aeth Paul i'w weld, ac ar ôl gweddïo rhoddodd ei ddwylo arno a'i iacháu.

9. Ar ôl i hyn ddigwydd dyma lawer o bobl eraill oedd yn glaf ar yr ynys yn dod ato ac yn cael eu gwella.

10. Cawson ni bob math o anrhegion ganddyn nhw, a phan ddaeth hi'n bryd i ni adael yr ynys dyma nhw'n rhoi popeth oedd ei angen i ni.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 28