Hen Destament

Testament Newydd

Actau 28:17-30 beibl.net 2015 (BNET)

17. Dri diwrnod ar ôl cyrraedd Rhufain dyma Paul yn galw'r arweinwyr Iddewig yno at ei gilydd. “Frodyr,” meddai wrthyn nhw: “er na wnes i ddim byd yn erbyn ein pobl, na dim sy'n groes i arferion ein hynafiaid, ces fy arestio yn Jerwsalem ac yna fy nhrosglwyddo i ddwylo'r Rhufeiniaid.

18. Dyma'r llys yn fy nghael i'n ddieuog o unrhyw drosedd oedd yn haeddu marwolaeth, ac roedden nhw am fy rhyddhau i.

19. Ond dyma'r arweinwyr Iddewig yn codi gwrthwynebiad a ces fy ngorfodi i apelio i Gesar – nid fod gen i unrhyw gyhuddiad i'w ddwyn yn erbyn fy mhobl.

20. Gofynnais am gael eich gweld chi er mwyn esbonio hyn i gyd i chi. Y rheswm pam mae'r gadwyn yma arna i ydy am fy mod i yn credu yn y Meseia, Gobaith Israel!”

21. Dyma nhw'n ei ateb, “Dŷn ni ddim wedi derbyn unrhyw lythyrau o Jwdea amdanat ti, a does neb o'n pobl ni wedi dod yma i sôn am y peth na dweud dim byd drwg amdanat ti.

22. Ond dŷn ni eisiau clywed beth rwyt yn ei gredu. Dŷn ni'n gwybod fod pobl ym mhobman yn siarad yn erbyn y sect yma.”

23. Felly dyma nhw'n trefnu diwrnod i gyfarfod â Paul. Daeth llawer iawn mwy ohonyn nhw yno y diwrnod hwnnw. Buodd Paul wrthi drwy'r dydd, o fore tan nos, yn esbonio beth oedd yn ei gredu. Roedd yn eu dysgu nhw am deyrnasiad Dduw ac yn defnyddio Cyfraith Moses ac ysgrifau'r Proffwydi i geisio eu cael nhw i weld mai Iesu oedd y Meseia.

24. Llwyddodd i argyhoeddi rhai ohonyn nhw, ond roedd y lleill yn gwrthod credu.

25. Buon nhw'n dadlau gyda'i gilydd, a dyma nhw'n dechrau gadael ar ôl i Paul ddweud hyn i gloi: “Roedd yr Ysbryd Glân yn dweud y gwir wrth eich hynafiaid chi wrth siarad drwy'r proffwyd Eseia:

26. ‘Dos at y bobl yma a dweud, “Gwrandwch yn astud, ond fyddwch chi ddim yn deall; Edrychwch yn ofalus, ond fyddwch chi ddim yn dirnad.”

27. Maen nhw'n rhy ystyfnig i ddysgu unrhyw beth – maen nhw'n gwrthod gwrando, ac wedi cau eu llygaid. Fel arall, bydden nhw'n gweld â'u llygaid, yn clywed â'u clustiau, yn deall go iawn, ac yn troi, a byddwn i'n eu hiacháu nhw.’

28. Felly deallwch hyn – mae'r newyddion da am Dduw yn achub ar gael i bobl y cenhedloedd eraill hefyd, a byddan nhw'n gwrando!”

30. Am ddwy flynedd gyfan, arhosodd Paul yno yn y tŷ oedd yn ei rentu. Roedd yn rhoi croeso i bawb oedd yn dod i'w weld.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 28