40. Felly dyma nhw'n torri'r angorau'n rhydd a'u gadael yn y môr, a'r un pryd yn datod y rhaffau oedd yn dal y llyw. Wedyn dyma nhw'n agor yr hwyl flaen i ddal y gwynt ac anelu am y traeth.
41. Ond dyma'r llong yn taro banc tywod, ac roedd tu blaen y llong yn hollol sownd ac yn gwrthod dod y rhydd. A dyma'r starn yn dechrau dryllio wrth i'r tonnau gwyllt hyrddio yn erbyn y llong.
42. Roedd y milwyr eisiau lladd y carcharorion rhag iddyn nhw nofio i ffwrdd a dianc,
43. ond rhwystrodd y pennaeth nhw rhag gwneud hynny am ei fod eisiau i Paul gael byw. Wedyn rhoddodd orchymyn i'r rhai oedd yn gallu nofio i neidio i'r dŵr a cheisio cyrraedd y lan.
44. Wedyn roedd pawb arall i geisio dal gafael mewn planciau neu ddarnau eraill o'r llong. A dyna sut gyrhaeddodd pawb y tir yn saff!